Yn ddiweddar, gofynnwyd i mi pa rinweddau sydd eu hangen ar ddylunydd cynnwys dwyieithog.
Yn ddigon od, doeddwn i ddim wedi ystyried hyn fel rhestr o ddyletswyddau neu rinweddau, er fy mod wedi cael llawer o drafodaethau ehangach gyda chydweithwyr lle mae dyletswyddau, rhinweddau a sgiliau dylunydd dwyieithog wedi cael eu crybwyll.
Dwi hyd yn oed yn galw fy hun yn un ar LinkedIn!
Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y rôl “Dylunydd Cynnwys Dwyieithog” yn un eithaf unigryw – a dydw i ddim yn siŵr os oes llawer o bobl mewn rôl o’r enw hwnnw. Rwy’n gwybod bod cwpl o swyddi wedi cael eu hysbysebu ond dydw i ddim yn siŵr os cawsant eu llenwi.
Fe wnaeth hyn hefyd i mi feddwl am beth allai fod yn gwneud recriwtio’n anodd.
Yr ateb tebygol i lawer o’r arsylwadau a’r cwestiynau hyn ydi ‘mae’n dibynnu’. Gall ddibynnu ar y sefydliad, eu hadnoddau a’u hanghenion. Dyma rai syniadau i’w hystyried.
Diffinio beth sy’n ddwyieithog am y rôl
- Oes angen i’r dylunydd ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddwyr Cymraeg, darparu gwasanaethau, a rhanddeiliaid?
- Oes angen rhywun sy’n gallu ysgrifennu neu ddylunio yn Gymraeg ac yn Saesneg?
- Oes angen rhywun sy’n gallu adeiladu perthnasoedd a gweithio’n gydweithredol, yn benodol gyda chyfieithwyr, rheoleiddwyr, ac ymchwilwyr defnyddwyr?
Mae’r rhain i gyd yn ddilys ac yn fuddiol i ddefnyddwyr a’r sefydliad. Dydy pob un ohonynt ddim yn gofyn am siaradwr Cymraeg i wneud y rôl.
Wrth gwrs, mae siaradwr Cymraeg yn ddelfrydol. Felly, sut ydyn ni’n denu siaradwyr Cymraeg i rôl o’r fath?
Mae recriwtio’n anodd
Yng Nghymru, dydyn ni ddim wedi mabwysiadu rolau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn eang. O ganlyniad, dydy’r gair ‘dylunio’ ddim yn cael ei ddeall yn gyffredin fel rôl ysgrifennu.
Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn gweithio mewn rolau cyfieithu neu gyfathrebu – felly mae ganddynt sgiliau trosglwyddadwy ond efallai nad ydynt yn gyfarwydd â rôl dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, nac yn awyddus i un. Byddent yn berffaith ar gyfer newid gyrfa.
Y broblem yw bod y swyddi dylunio dwyieithog yr ydw i wedi’u gweld yn aml yn cael eu hysbysebu ar lefel uwch. Efallai bod hyn i gydnabod yr arbenigedd a’r gwerth ychwanegol, ond ydy hyn yn atal pobl rhag newid gyrfa os nad oes ganddynt brofiad o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr?
Ydy hi’n rôl frawychus? Hynny yw, a fyddai siaradwr Cymraeg yn meddwl bod disgwyl iddynt wneud dwbl y gwaith – dylunio ar gyfer cynulleidfa ehangach, mewn 2 iaith, heb fod cydweithwyr yn gorfod gwneud hynny? Os yw cydweithwyr yn disgwyl i’r dylunydd dwyieithog fod yn gyfrifol yn unig am hyn, gallai ddod yn llethol yn gyflym. Ydy hyn yn rhoi gormod o gyfrifoldeb ar un person?
Ai mater ydi hi bod dylunwyr cynnwys sy’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn brin iawn ar hyn o bryd?
Dyletswyddau’r rôl
O ‘mhrofiad i, mae’n cynnwys y canlynol:
- Holl sgiliau dylunydd cynnwys arferol
- Eirioli dros ddefnyddwyr Cymraeg a dylanwadu ar randdeiliaid i ddeall sut gall dulliau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) helpu sefydliadau i fodloni gofynion cydymffurfio, anghenion defnyddwyr a nodau busnes
- Dylanwadu ar randdeiliaid a chydweithwyr ynghylch pam y dylai ystyried y Gymraeg fod yn rhan o benderfyniadau sefydliadol, nid yn ôl-ystyriaeth
- Gweithio gyda chydweithwyr UCD, cyflwyno a chynnyrch i ymgorffori ymchwil defnyddwyr, profi a dylunio dwyieithog mewn cynlluniau gwaith
- Eirioli bod dylunio dwyieithog yn gyfrifoldeb ar y cyd
- Gweithio gydag ymchwilwyr defnyddwyr i ddatblygu cynlluniau penodol i ddeall defnyddwyr Cymraeg a’u hanghenion
- Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn dylunio gwasanaethau. Er enghraifft, sut fyddai sefydliad yn delio â cheisiadau a gyflwynwyd yn Gymraeg?
- Dylunio cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn Gymraeg (ac yn Saesneg?)
- Dylunio strategaethau cynnwys sy’n ystyried sut mae cynnwys yn cael ei ddylunio a’i gynnal yn ddwyieithog (neu ei gyfieithu) yn ystod cylch oes y cynnwys
- Gweithio gyda ymchwilwyr defnyddwyr i gynnwys defnyddwyr a gwasanaethau Cymraeg wrth brofi prototeipiau neu wasanaethau byw
- Adeiladu perthnasoedd gyda chyfieithwyr i’w cynnwys yn y broses ddylunio dwyieithog – ar gyfer gweithgareddau ymchwil defnyddwyr, datblygu cynnwys, adolygiadau cydweithwyr neu waith cyd-ddylunio
- Gallu datblygu a chynnal terminolegau cyffredin a chanllawiau arddull ar draws disgyblaethau fel dylunio a chyfieithu
- Darparu a rhannu arbenigedd ymarferol am y Gymraeg, ei defnyddwyr, cyd-destun a safbwyntiau
- Bod â gwybodaeth dda am anghenion cydymffurfio a risgiau sy’n berthnasol i’r sefydliad fel eu bod yn cael eu cymhwyso
Sgiliau
- Eiriolaeth, dylanwadu a pherswâd gyda rhanddeiliaid, partneriaid a chydweithwyr
- Sgiliau cyfathrebu clir
- Gweithio’n gydweithredol
- Dealltwriaeth o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gwerth ymchwil, profi a dysgu
- Meddwl strategol
- Gwybodaeth ymarferol am weithio ystwyth
- Gallu ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg i safon uchel
- Gwybodaeth ymarferol am Gymru, y Gymraeg a chyd-destunau cymdeithasol
Criw o un?
Yn yr holl ddyletswyddau a rhinweddau hyn, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg na all un person wneud y cyfan. Mae angen cefnogaeth a chydweithrediad.
Er mwyn i sefydliad ddarparu gwasanaethau dwyieithog effeithiol, mae angen dealltwriaeth ehangach o sut mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu.
Nid cyfrifoldeb cyfieithydd yw gwasanaethau Cymraeg
Nid cyfrifoldeb un dylunydd yw gwasanaethau dwyieithog.
Atebion tymor hir
- Sut allwn ni weithio gyda cholegau a phrifysgolion i ddenu talent i ddylunio gwasanaethau cyhoeddus modern?
- Sut allwn ni ddechrau cynnig prentisiaethau, rolau i ddechreuwyr neu newid gyrfa i siaradwyr Cymraeg, gyda llwybr gyrfa i staff dwyieithog weithio ar wasanaethau dwyieithog allweddol?
- Lle gall AI symleiddio rhai elfennau o waith cyfieithu, sut allai rolau eraill esblygu i fod yn fwy o rolau “Cyfieithydd (UCD/dylunio cynnwys)”?