Trafod Cynghanedd #1

Wrth ddysgu dosbarthiadau cynganeddu i ddisgyblion sydd â chrap go lew ar y rheolau, mae cryn dipyn o drafodaeth mewn dosbarthiadau ar y mannau llwyd hynny mewn cynghanedd, lle gall rhywbeth fod yn gywir ac yn anghywir yr un pryd; lle mae chwaeth, crebwyll a barn bersonol y cynganeddwr yn ganllaw cystal ag unrhyw lyfr rheolau.

Fe wnes addo i rywun rywdro y byddwn yn sôn am rai o’r mannau hyn ar-lein. Felly dyma fynd ati i fodloni’r gîcs cynganeddol.

Yr hyn a sbardunodd yr erthygl hon oedd gweld llinell gan y Prifardd Llion Jones ar wefan Annedd y Cynganeddwyr. Llinell o englyn (da iawn i’r cricedwr a’r darlledwr hoffus Richie Benaud) ydi hi. Hoffwn ddweud cyn mynd ymhellach nad ydw i’n tynnu ar Llion yma, a dwi’n siwr na fydd yn meindio fy mod yn defnyddio llinell o’i waith o fel man cychwyn. Mae’r hyn sydd gen i dan sylw yn arfer sydd i’w glywed yn amlach, yn fy marn i, mewn talyrnau a stompiau gan feirdd hen ac ifanc fel ei gilydd.

Cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig oedd y llinell o dan sylw:

 dy seibiau a’th eiriau hud

AU | th: AU | h:

Dwi wedi nodi dehongliad o’r gynghanedd o dan y llinell yn y modd y mae fy nghlust yn reddfol yn clywed y gynghanedd. Ac mae nifer o gwestiynau cynganeddol yn tynnu sylw fy nghlust i yn fan hyn. Beth am y gyfatebiaeth rhwng yr e a’r h yn ail a thrydydd ran y gynghanedd? Beth am yr -th o flaen yr eiriau? beth am yr h yn hud?

Mewn cynghanedd mae gofynion ateb yr h, fel y gofyn am y Gymraeg mewn nifer o swyddi cyhoeddus pwysig, yn ddymunol iawn ond nid yn angenrheidiol (cyn belled â’ch bod yn fodlon dysgu). Os felly, ymdrech sydd gan y bardd yma, am wn i, ar greu cynghanedd sain lafarog, gyda’r geiriau  “eiriau” a “hud” yn cwblhau dau ran olaf y gynghanedd.

Ond fe sylwch uchod fy mod i’n clywed th mawr o flaen “eiriau” yn y llinell.

Beth petawn am ail-lunio’r llinell, nes bod modd benthyg y llythyren th o flaen “eiriau” a “hud”, fel ei gilydd, i greu cynghanedd gywir gyda’r cytseiniaid hynny?

“Parhau â’th eiriau wnaeth Huw”

AU | th: AU | th (h):

 Yn y llinell uchod, derbyniwn nad ydym yn ateb yr h. Fe fyddem i gyd, yn derbyn bod y ddau sain th yn gryf, a’i bod yn gywir, dwi’n siŵr?

Mae’n hollbwysig i gynganeddwr, wrth arfer y grefft i ddod i adnabod a defnyddio goddefiadau a hyblygrwydd y gynghanedd ei hun (er enghraifft benthyg yr th uchod i greu cyfatebiaeth gytseiniol gynganeddol). Ond os ydyn ni mewn rhai achosion yn dweud bod modd benthyg yr th am ei bod yn naturiol i’r glust wneud hynny, i ba raddau y gallwn ni ei hanwybyddu’n llwyr pan fo hynny’n gyfleus? Onid clywed y gynghanedd fel hyn ydyn ni mewn gwirionedd:

 dy seibiau | a’th eiriau |  hud

AU | th: AU | h:

ac mai rhoi ein pennau, a’n clustiau, yn y tywod ydyn ni fel arall?

Gan nad oes angen ateb y gytsain olaf ym mhrifodl cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig, mae’n gynghanedd hyblyg iawn; y mwyaf poblogaidd o blith y cynganeddion sain. Ond a ydyw’n mynd yn rhy bell i ddefnyddio’r hyblygrwydd hwnnw i’r eithaf nes creu cynghanedd sain heb unrhyw gyfatebiaeth gytseiniol i’w chynnal? Ydi hi felly yn gynghanedd lafarog ddilys? Ydi hi, wir, yn gynghanedd o gwbwl?

Petaem yn ail-lunio’r llinell yn gynghanedd sain gytbwys ddiacen e.e.

dy seibiau a’th eiriau heriol

AU | th : r AU | h : r

fe dybiwn i fod hynny’n gwbwl dderbyniol ar sail mai y ddwy r ar yr acen :r / :r sy’n cwblhau’r gynghanedd, ac nad oes angen malio am yr th a’r h (llafarog) sydd o flaen y naill acen a’r llall.

Ond rhwng “eiriau” a hud”, y tu hwnt i gyd-destun y llinell a’r mesur, does dim cyfatebiaeth gytseiniol, gynganeddol. Rhaid pennu felly mai ymdrech ar gynghanedd lafarog yw hon. Ond a fyddai’n pasio’r prawf hwnnw?

Dyma ni felly yn dod nôl at yr ‘h’ bondigrybwyll. Mae gennym gynganeddion cytbwys acennog llafarog cwbl gywir yn y traddodiad barddol (gyda diolch i Clywed Cynghanedd, dyma ambell enghraifft),

o :WEnt | y teithiodd i :IÂl
: (nt)|  (t  th  dd)  : (l)

o’i :AUr, | rhoes lawer i’w :WŶr

 : (r) |(rh  s l   r)    :  (r)

Does gan neb, gan gynnwys y finnau, broblem gyda’r rhain. A dderbyniwn ni, felly, fod modd creu cynghanedd lafarog gyda h yn un o’r ‘llafariaid’? Er enghraifft,

I Went i garu aeth Huw

: (nt) | (g r) h:

Awn i ymuno’n yr hwyl

: (n) | (m n n r) h : (l)

Neu a ydi’r rhain yn ymylu ar fod yn gynganeddion mewn rhythm yn unig, gan hepgor unrhyw gyfatebiaeth gytesiniol/gynganeddol fel y disgwylid hi?

Doed gen i ddim problem gyda defnyddio h yn y dull llafarog fel y cyfryw, byddwn i’n ffôl iawn yn pledio achos yn erbyn hynny, ac yn gwneud y gwaith o gynganeddu yn anoddach i mi fy hun! Yn fwy na hynny, mae’r arfer  wedi cael ei dderbyn ers blynyddoedd maith, ac nid ydyw’n amharu ar y gynghanedd fel arfer.

Ond a fyddwch chi’n meddwl weithiau, fel finnau, fod modd gwthio ffiniau’r h llafarog braidd yn rhy bell, gan lacio’r cyffion yn ormodol nes nad ydyn nhw yn gwneud sŵn?

A allwn greu cynghanedd sy’n canu wrth briodi cynghanedd lafarog a chynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig? Taflwch y cromosôn h i’r pair, a bydd gennym fabi newydd – y gynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig (led)lafarog!

Cywir neu beidio, mae ateb yno yn rhywle yn cuddio mewn chwaeth, crebwyll neu ddeddf. Be ddwedwch chi?

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *