Ymateb Mike Parker

Gwlad y Menyg Gwynion

Mae ‘na ddelwedd o Gymru sydd wedi goroesi, sy’n gyfleus iawn i rai carfannau. Mae’n codi’i ben yn aml yn y byd gwleidyddol, pan fyddwn ni’n cael ein hannog yn aml i roi ein barn i blesio eraill, i ategu rhyw bwynt (mae’r Cymry’n cytuno!), neu chwarae’r Plwmsan i Wynff rhywun arall.

Ar ôl i’r baw gael ei daflu, a’r triciau gwleidyddol ddod i ben am y tro yng Ngheredigion eleni, a phawb yn dychwelyd i’w trefn ddyddiol… tybed a fydd unrhyw un wir yn malio beth sydd ar feddyliau ni’r Cymry?

“Gwlad y Menyg Gwynion! Dwedwch eich barn yn union,
mae’r byd eich hangen, mae’n wir!
Y wlad sy’n siarad o’r galon, rhoddwch yn hael atebion
i’n teyrnas eu clywed yn glir…

Lle rhown ein harfau niwclear? A pha dim pêl-droed Lloegar
yw’ch hoff un chi, uff iw plîs?
‘Da chi o blaid arch-garchar? Pwy ydach chi’n ddilyn ar ‘trydar’?
mae angen cael gwybod ar frys.
A ewch i’r Steddfod eleni? Pam fod pawb yn caru rygbi?
Llefarwch cyn Sul y Pys!

Defnydd y gelyn o drones, minlliw newydd Alex Jones,
Cewch ddweud yn blaen be’ ‘di be’.
Sut fedrwn achub yr hinsawdd? (A ydych eisiau morglawdd? –
fe wyddom am jyst y lle.)

Felly, Gymry, hollbwysig yw bod gennych farn i’w gynnig,
fe gewch ein diolch cyn hir.
Ond na soniwch yn Ngheredigion, da chi, am eich pryderon
bod hiliaeth ar ein tir:
Yng Ngwlad y Menyg Gwynion chewch chi’m dweud eich barn yn union,
rhag ofn i chi gyffwrdd â’r gwir…”

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *