Twm o'r Nant gan Lewis Hughes

Twm o’r Nant – Un fu’n dweud y gwir

Ar y dydd hwn yn 1810 by farw Twm o’r Nant y baledwr, anterliwtiwr a’r dramodydd.

Mae ei hanes yn ddifyr a chythryblus. Cafodd gyfnodau yn llafurio’n galed yn llwytho coed, yn ardal Dibych yn bennaf, ond hefyd yn ochrau Llandeilo (ac yntau ar ffo, o bosib)

Roedd y baledi, yr anterliwtiau a’r dramâu a gyfansoddwyd ganddo yn gampweithiau. Campweithiau yn eu gonestrwydd a’u hadlewyrchiad o Gymru ei gyfnod. Dywedodd O.M. Edwards,

y mae interliwdiau Twm o’r Nant yn naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn

Drachefn fe ddyweda O.M. Edwards amdano:

Fel dramayddwr y mae’n fwy nag yw’r Wyddfa yn Eryri, saif yn llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid yw’n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad fel ysbryd goreu ei oes,–yn synhwyrol, ac ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o’r Nant wedi dweud y gwir.

Ac efallai heddiw, mewn byd lle mae cyfryngau Cymru mor ddiddim, a chyfrygnau torfol byd-eang yn sigo o dan bwysau newyddion ffug, does bosib fod neges yma yn rhywle am ddyletswydd newyddiadurwyr a beirdd cyfoes i’w dweud-hi am Gymru.

Twm o’r Nant

Cerdd a berfformiwyd gyntaf yn noson Siwper Cêt ac Ambell Fêt, Eisteddfod Dinbych 2013

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *