Cerdd gomisiwn ydi hon a luniais mewn ymateb i gais gan ffrind. Roedd hi am adrodd darn yng ngwasanaeth priodas Gwenan a Steff ac am gael cerdd briodas wreiddiol i wneud hynny.
Priodi’n Sorrento
Roedd y briodas yn digwydd dan heulwen arfordir Amalfi yn yr Eidal. Ar ôl gwneud peth wmbreth o gomisiynau i briodasau yng Nghymru, mae’n braf cael tirlun newydd ac awyr iach y Môr Canoldir i godi hwyliau!
Roedd fy ffrind wedi gofyn sawl comisiwn yn y gorffennol, felly braf iawn oedd cael cyfle i wneud comisiwn arall ar ei rhan. Ces fanylion ychwanegol ganddi am leoliad y briodas, enw merch y pâr priod, sef Ela Grug a rhyw ychydig o hanes y pâr.
Wedi anadlu cryn dipyn awyr hallt y môr, a dychmygu’r cychod yn hwylio’n braf islaw’r clogwyni, dyma gasglu nad oedd pethau mor wahanol â hynny i Gymru wedi’r cyfan!
Cerdd briodas: I Gwenan a Steff
Oedwch: mae hwyliau sidan
yn y Med, a’r cychod mân
dan swyn y gwanwyn a’r gwynt
yn caru gwres y cerrynt.
Gwenwch islaw’r clogwyni;
dônt eto i’ch huno chi,
at aur yr haul yn eu tro
ar eu hynt i Sorrento.
Yn eich gwanwyn chi, Gwenan
a Steff, mor gynnes ei dân,
rhowch i Ela’r ha’ o hyd
a hafan o’r tes hefyd.
Hawliwch, ym mreichiau’r heli
draw’n y bae eich henwau chi
a chewch ar eich taith eich hun
hwyliau sidan glas wedyn.
Llun: Comin Creadigol Flickr: Gabrielle Ludlow
Hyfryd Osian. Mai’n amsar am gyfrol!
Diolch Casia.
Dwi’n cael ton o feddwl am y peth, a wedyn gor-feddwl ac anghofio wedyn.
Cyfrol ar-lein aml-gyfrwng arloesol ella 😉