Barddas – Rhifyn yr Eisteddfod 2012

Clawr rhifyn Eisteddfod Barddas

Mae gen i bwt o erthygl yn rhifyn diweddaraf Barddas. Dwi ddim am ei hatgynhyrchu yma, na sôn amdani rhyw lawer, achos mi gewch chi brynu’r cylchgrawn eich hunain!

Mae’r erthygl yn fras yn gosod her i’r Gymdeithas Gerdd Dafod a beirdd Cymru yn gyffredinol y fywiogi eu hymarfer fel beirdd. Pregethu mae’r beirdd o hyd am y ‘traddodiad llafar’, ond a ydi hyn bellach yn ddilys ac yn berthnasol? Os ydi, mae angen gweithredu ar hynny, a mynd â’n gwaith at gynulleidfaoedd a’i berfformio.

Mae amcan fras o hyn i’w weld mewn maniffesto ar wefan Barddas.

Os hoffech glywed mwy am hyn, mi fyddaf yn cyflwyno rhai o’r dadleuon ym Mhabell Barddas ar Faes yr Eisteddfod am 11 bore Iau 9 Awst. Bydd cyfle i chi leisio eich barn, anghytuno â mi neu fy rhoi yn fy lle hefyd.

Dewch draw!

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *