Prif Weinidog Cymru yn dweud ei farn am yr Alban.

Punnoedd Carwyn Jones

 

Os ga i ddefnyddio fy ngwleidyddol glowt,
fe gewch chi fy nhamaid, a hynny heb ddowt:
fe eith bob dim fan hyn off y rêls
ped elem ni yma yn Englandandwêls;
‘Sna’m lle ar y cledrau i rannu’r bunt”
medd Carwyn Jones o dan ei wynt.

Am na all y Fuwch sugno’r llo
mae’n rhaid i ni wrth y status quo.
Oni ddowch at y bwrdd a bod yn llawen
i gael sleis gyfartal yr un o’r gacen,
‘chewch chi ddim gwahoddiad i barti’r bunt”
medd Carwyn Jones o dan ei wynt.

Mae Ed a Dave yn gytûn efo fi,
‘sna’m lle i nashis yn ein cenedl ni,
am fod ein Prydain Fawr mor fach
y mae’n Cymru ninnau, siŵr, mor iach;
felly ni cewch chi gadw’r bunt”
medd Carwyn Jones o dan ei wynt.

Am nad yw gwleidydda yn ddim ond gêm,
mae angen weithiau magu stêm,
ac weithiau rywun praff a gwych
i gicio’r bêl yn ddwfn i’r gwrych
fel na fedrwch chwarae hefo’r bunt”
medd Carwyn Jones o dan ei wynt.

Cer, Carwyn, o’th orsedd yn y Bae,
caria di ‘mlaen i ddarogan gwae;
dos, dwed dy farn dy hun am y bunt;
dydi Cymru fach ddim yn dal ei gwynt.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *