Cerddi
Dyma’r lle y mae cerddi Osian Rhys Jones ar gael i chi eu darllen, eu clywed neu’u gwylio.
Byddaf yn ysgrifennu cerddi caeth a rhydd fel ei gilydd. Hoffwn feddwl fy mod yn gallu troi fy llaw at nifer helaeth o fesurau. Byddaf yn ysgrifennu llawer iawn yn y mesurau rhydd, ond y gynghanedd oedd y cariad cyntaf. Byddaf yn dal i ganu’n gaeth o bryd i’w gilydd. Heb fod yn ddigon aml, efallai…
Pe bawn i’n ysgrifennu yn yr un mesurau, yn yr un cywair, am yr un pynciau o hyd, yna gorchwyl go ddiflas fyddai barddoni i mi, ac i chi fel cynulleidfa. Hoffwn feddwl felly fy mod yn cadw fy awen yn un amrywiol, er lles pawb.
Hawlfraint
Y fi piau hawlfraint cynnwys y blog, ond mae nhw yma yn hytrach na’u bod yn pydru mewn drôr neu ddisg galed. Felly rwy’n eich hannog i’w rhannu ar y we a’u trafod fel y mynnwch, dim ond i chi roi linc yn ôl i’r wefan hon fel ffynhonnell. Os hoffech ddefnyddio’ cynnwys y blog at berwyl arall, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Felly, gobeithio y byddwch yn mwynhau yr hyn o gerddi sydd ar y blog. Gadewch sylw neu cysylltwch â mi os hoffech roi eich barn neu awgrymu be arall y gallwn fod yn ei gyhoeddi.
Dyma gerdd i Kurt Cobain. Pan oeddwn yn fy arddegau, Nirvana oedd un o’r bandiau a oedd yn cael chwarae ar lŵp ar fy Hi-Fi. Roeddwn i’n cŵl yn y modd hwnnw. Diolch i’r Annedd am ei gyhoeddi dro nôl. Kurt Cobain Yn rhy ddig daw’r arddegau i’n rhan, y poenydwyr iau; daw’r ing, y […]
Mi wnes i yrru o’r Ffôr i Aberystwyth heddiw. Does gen i fawr o serch tuag at y daith hon gan fy mod i wedi ei gwneud filoedd o droeon ar fws ac mewn car. Beth sy’n waeth na hyn wrth gwrs yw gwneud y daith ar y Sul. Mae na bob math o yrwyr