Dreifars Sala’r Sul

Mi wnes i yrru o’r Ffôr i Aberystwyth heddiw. Does gen i fawr o serch tuag at y daith hon gan fy mod i wedi ei gwneud filoedd o droeon ar fws ac mewn car. Beth sy’n waeth na hyn wrth gwrs yw gwneud y daith ar y Sul. Mae na bob math o yrwyr ar y ffordd ar y Sul; yr araf, y gwyllt, y diofal, yr hamddenol, yr henoed a’r beicwyr; pob un ohonynt yn beryglus ac am wneud y profiad o yrru ar y Sul mor amhleserus â phosib i hogyn hen ffasiwn fel fi.

Rhag bod yn rhwystredig felly, beth am godi gitâr, tamborin, seiloffon a chrwth a chanu cân i leddfu’r llid?

Pawb gyda’i gilydd. 1, 2, 3:

Dreifars Sala’r Sul

 

Mae’n seithfed dydd ar lonydd y wlad,
ar bnawn bach trwm ‘rôl cinio dydd Sul,
daw clychau’r eglwys i ganu i gyd,
a’r capel i agor ei ddrysau bach cul.

Mae’n seithfed dydd ar lonydd y wlad,
Ar seti’r ceir yn gorffwys mae ffyn
y defaid sy’n araf, araf o hyd
yn gyrru i’w llannau, a’u gwalltiau’n wyn.

O hyd, o hyd, dwi’n dod ar eu traws,
 byd yn hen, O! Be da’ ni haws?

Yn rhydd, ddydd Sul, reit siŵr yr oedd Sais
A’i ffôr-bai-ffôr heb ffitio’r ffyrdd,
minnau’n ei ganlyn mewn Ffordyn am oes-
fe dybiant hi’n neis fod y cloddiau’n wyrdd!

O hyd, o hyd, dwi’n dod ar eu traws,
Â’n byd yn un haf, O! Be da’ ni haws?

Wel dyna fo, fe brynai geffyl-
y ceffyl hardda’ erioed a fu,
a’i bedolau’n tarannu, tarannu mor ddyfal
wrth daro’r ffordd â’i goesau’ cry’.

Mae’n seithfed dydd ar lonydd y wlad,
dwi’n diolch i Dduw, mi ga’i ryddhad.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *