Cerdd 'Mewn Dau Gae Pêl-droed' gan Osian Rhys Jones

Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed

Mae ‘Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed’ yn barodi ar gerdd enwog ac yn gerdd bêl-droed.

Gan ei bod hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, mae eraill yn ymgymryd â heriau gwirion fer Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru (faswn i byth yn gwneud y ffasiwn beth…).

Ond i mi, gan ei bod hi’n ddiwrnod cenedlaethol barddoniaeth a bod Cymru hefyd yn chwarae pêl-droed y dwthwn hwn  – mi rydw i am gyhoeddi cerdd o’r enw Gweledigaeth mewn Dau Gae Pêl-droed.

Nid oes angen i mi esbonio i’r rhai llengar yn eich plith mai parodi o fath ydi hon ar gerdd enwog Waldo Williams ‘Mewn Dau Gae’. Fe’i cyfansoddwyd ar ôl ymweliad byr â Pharis yn ystod pencampwriaethau Ewro 2016 eleni. Nid ydi’r gerdd hon am gyrraedd yr un uchelfannau ysbrydol â cherdd Waldo, ond gobeithio ei bod yn ddigon diffuant i roi ychydig o lwc i’r tîm cenedlaethol yn erbyn Awstria heno.

Gweledigaeth mewn dau gae pêl-droed

O ba le’r ymroliai’r bêl i Joe Ledley
Oedd ar ras dros Stade de Toulouse a Pharc des Princes?
Ar ôl i ni ganu’n groch ar y terasau tywyll,
O b’le y deuant, y gôls a fu erioed?
Neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr asgellwr sydyn?
Gareth – arwr y maes oedd rholiwr y bêl.
Oddifry, uwchlaw’r dyfarnwr gloywbib, uwch callwib Hal Robson-Kanu,
Dygai i ni ein llwyfan mawr.

Sgoriai i ni’r goliau lle nad oedd
Ond trawstiau’n crynu ac atsain yn y cof,
Y brain digywilydd ar ystlysau’n crawcian,
Y Barry Horns yn breuddwydio mynd i’r ffeinals un haf.
Pwy sydd yn taclo pan fo’r difféns yn dihuno?
Cyfod, rhed, chwarae 1-2, wele’r ffans.
Pwy sydd yn ein safio ynghanol y goliau?
Yr oedd Wayne yn Stade de Toulouse a Pharc des Princes.

Am hyn y llafargana’r dorf yn y gwres a’u cwrw
A’r Ewros yn eu gwaed yn gyfandir o angerdd.
Mae’r llawenydd a feddant hwythau’n eu cenedl
Yn Stade de Toulouse a Pharc des Princes heb ofn.
A’u gafael ar y gwrthwynebwyr, y Ffanbarthau llawn pobl.
Diau y daw’r Gêm, a full-time yn ei dro,
Daw Joe Allen, daw Ramsey, daw Ben Davies i’r bwlch,
Daw’r Brenin Bale, a’r brain yn bolltio.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *