Kurt Cobain

Kurt Cobain

Dyma gerdd i Kurt Cobain. Pan oeddwn yn fy arddegau, Nirvana oedd un o’r bandiau a oedd yn cael chwarae ar lŵp ar fy Hi-Fi. Roeddwn i’n cŵl yn y modd hwnnw.

Diolch i’r Annedd am ei gyhoeddi dro nôl.

Kurt Cobain

Yn rhy ddig daw’r arddegau
i’n rhan, y poenydwyr iau;
daw’r ing, y mood swing a’r siom
yn dynn i gydio ynom
yn ddifynedd, ddifenwol
braidd yn ein craidd roc a rôl.

Roc a rôl i’r oedolyn
roi’i oes yn pryderu’i hun
am wisg flêr, am gân erwin
â chur ei sgrech ar y sgrin;
i’n clustiau ninnau cawn hon
yn sarrug ei chysuron.

Ymhél â’r rebel mae’n rhaid
i bob un tra bo’u henaid;
tyfu’r gwallt am mai dallt dim
a nodwedda’n byd diddim
yn bymtheg – angen rhegi
â chŵyn iau ein hochain ni.

Uniaethu â’r gân chwithig
wnes innau trwy’r dyddiau dig;
yn nyfnder nos arhosais
i fwynder llef, nadu’r llais,
gydio’n y gwaed. Un a’i gân
yn feichus, yn falm fechan.

Y llais erchyll o serchog
yw salmau a rhegau’r rôg;
mae’n canu, mae’n rhygnu rhwng
llenwi’r gwyll yn rhai, – gollwng
rhai yn swil i’r nos eilwaith;
yn nhranc rhai ieuanc a’u hiaith
mae’n deall, deall i’r dim,
nodweddion y byw diddim.

A gwn, wedi f’ugeinoed,
y gŵr nad yw’n bymtheg oed,
mai lle eraill yw aros
ochneidiau’r nodau’n y nos.
Tynnu ar Kurt wna’r rhai caeth,
ei wewyr a’i gwmnïaeth;
yn ei lais maent fythol iau
yn rhy ddig eu harddegau.

Ac am wn i, dyla’r gerdd orffen yn amherffaith fel hyn:

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *