Dyma englyn Nadolig. Tydw i byth yn dda iawn yn gyrru cardiau Nadolig felly dyma ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i bob un!
Englyn Nadolig 2016
Gwirionedd pob gair anwir a dduodd
Y ddaear. Ond genir
Golau aur mewn awyr glir:
Un seren y nos eirwir.