David Davies yn gweld dannedd mewnfudwr

Cyngor i David Davies AS/MP

Bu’n hysbys i nifer o bobol ers tro fod rhywbeth anarferol am y gwleidydd Torïaidd, David Davies. Ei ddaliadau yn un peth. Mae wedi pleidleisio o blaid  sawl peth amheus iawn, a phleidleisio yn erbyn sawl peth goleuedig arall (gadawaf i chi wneud eich hymchwil eich hun).

Ond daeth yn amlycach byth yr wythnos hon for y gwir anrhydeddus ŵr yn dipyn rhyfeddach nac a dybiwyd ynghynt. Dyma fo’n awgrymu fod angen profi dannedd mewnfudwyr er mwyn cadarnhau eu hoedran. Whare teg, ma’r bachan ‘di danto ar yr holl fewnfudwyr ma!

Felly ysgogodd hyn imi edrych nôl ar y cyfnod pan fu’r Brifwyl yn Sir Fynwy yr haf hwn. Yr adeg honno bûm yn ystyried pa gyngor a roddwn i’r aelod seneddol lleol pe’i gwelwn ar y maes. (Fel mae’n digwydd, ‘welais i ddim mohono. A phe bawn i wedi, rwy’n amau y byddwn i wedi bod yn rhy swil i ddangos y gerdd hon iddo. Efallai y caiff ei ddarllen wedi’r cyfan ar y dudalen hon…)

Cyngor i David Davies AS/MP

Pan fyddi, David Davies
Yn y pair hefo’r holl MPs
Neu’n hob-nobio drwy’r lobis
Hola hyn o’th galon, plis:

Pwy yw’r rhai sy’n talu pris
Y warant yn llaw’r Toris?
Ai’r cŵd sy’n llenwi marcîs Llundain?

Ai’r rhain ar ris Rhif Deg?
Rhagor fel Boris?
Be ddwedi, David Davies?

Eto fyth ar ein TVs
Mae na ayes, nays, am wn is:
Dafad wyt David Davies.

Yn dy rethreg ‘mond megis
Hen Went non compos mentis
yw’th sir di David Davies.

Nid croes i’r tlawd yw creisis.
Nid dy waith yw taflu dis
Drosom ni David Davies.

Ai byw bywyd yn biwis
yw dy nod? A ei di’n is?
Rwy’n ofni, David Davies.*

Yn San Steffan llawn stiffis,
Ar dy dalcen mae penis
Mawr ei hyd, David Davies.

Parcia dy dîn-dweud-porcis
Ar bolfolt, a thrwy belfis
Pob MP, David Davies.

Nid dy waith yw taflu dis.
Dy ddeall yw dy ddewis,
Cofia di, David Davies.

*Gan imi gyfansoddi’r gerdd hon nôl ym mis Awst, ymddengys fy mod i’n iawn i ofni yr âi pethau’n waeth!

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *