Bu sôn ar Twitter ers tro fod rhifyn cyntaf Podlediad Clera yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, ac yn wir mae’r rhifyn cyntaf ar gael i chi wrando!
Gwrando ar rifyn cyntaf Podlediad Clera
Os na fedrwch chi aros, gallwch chi wrando ar y rhifyn cyntaf yma:
Aneurig!
Baban y beirdd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yw Podlediad Clera. Neu, fel y maen nhw’n eu galw eu hunain, y “bwystfil barddol a elwir yn Aneurig”!
Mae gwagle wedi bod heb bodlediad Clera, heb yr un gofod penodol i drafod materion barddol, clywed cerddi llafar, cael gwersi cynganeddu neu hel clecs am glerwyr. Mae’r cyfrwng yn berffaith ar gyfer trafod y pynciau yma.
Diolch i’r ddau fardd am fwrw ati!
Beth fydd cynnwys Podlediad Clera?
O wrando ar y rhifyn cyntaf, sydd tua 50 munud o hyd, gallwn ddisgwyl digonedd o
- Drafod pynciau llosg y dydd
- Gwersi cynghanedd syml
- cerdd y mis
- clipiau sain o ddigwyddiadau barddol
- newyddion o fyd y beirdd
Ces i’r fraint o gyfrannu ‘cerdd y mis’ ar gyfer y rhifyn cyntaf, felly mae fy niolch yn fawr i Aneurig am y cyfle i fod yn rhan o hynny. Fe fydd darllenwyr y blog hwn eisoes yn gyfarwydd hefo’r gerdd a adroddias ar y podlediad, sef Gwylnos. Fe’i cyhoeddwyd ar y blog hwn wythnos neu ddwy yn ôl.
Mae eisiau podlediad misol
Da fydd gweld sut y gall esblygu wrth sefydlu ei hun o ran cynnwys a chynulleidfa. Beth am fwydo’r podlediad trwy iTunes a Google Play i wneud yn siŵr na fydd neb a fyn wrando yn colli rhifyn?
Yn bersonol alla i ddim aros i glywed mwy o gyfeiriad Podlediad Clera. ond fe fydd hefyd yn apelio at bawb, dwi’n siŵr. Nid dim ond podlediad i gîcs barddol mo hwn!
Sŵn doeth, sŵn persain a da,
yw sŵn clir byd sy’n Clera.
Y podledu’n lleddfu’n ‘llid’,
yndi mae yn galondid. #aneurig
Cytuno’n llwyr!