Cerdd ar gyfer ymgyrch Addysg Gymraeg i Bawb gan Osian Rhys Jones

Cerdd ar gyfer ymgyrch Addysg Gymraeg i Bawb Cymdeithas yr Iaith

Braint oedd cyfansoddi cerdd ar gyfer ymgyrch Addysg Gymraeg i Bawb, Cymdeithas yr Iaith. Ces fynd draw i gadw cwmni i’r rhai a fu’n cadw gwylnos ar nos Fawrth 27 Medi 2016.

Cafodd y gwaith caled i gyd ei wneud gan griw ymroddgar a oedd yn gwersylla y tu allan i’r Senedd. Diolch amdanynt.

Ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd cadarnhad gan Alun Davies, Y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, y bydd y cymhwyster ail-iaith yn cael ei ddiléu yn llwyr erbyn 2021.

Addysg Gymraeg i Bawb

Does dim amheuaeth gen i mai dyma un o’r ymgyrchoedd pwysicaf i’w cynnal ers amser. Un o anghyfiawnderau mawr y Gymru gyfoes yw mai dim ond 20% breitniedig sy’n gadael y system addysg yn rhugl yn Gymraeg. Nid yw hynny’n deg.

Mae’n debyg y bydd gwaith caled i ddod eto er mwyn cael y maen i’r wal. Mae gan Gymdeithas yr Iaith swyddogion a gwirfoddolwyr brwdfrydig ac egnïol. Ond os oes gennych funud i ledaenu’r neges drwy siarad â ffrindau, dros y we neu sôn wrth eich Aelod Cynulliad hyd yn oed – dwi’n siŵr y byddai’n gwneud byd o wahaniaeth i’r ymgyrch.

Ymlaen!

Gwylnos

Yn eu gwlâu mae’r Cymry’n glyd –
Wedi dyddiau’u dedwyddyd.
Yn swae hapus eu hepian
Heno mae’r co’n suo cân
Sy’n ddihid. Mae’r nos yn ddu.
A’r heniaith yn ein rhannu.

Ond i ni sy’n colli cwsg
Mae’n dramgwydd mynd i drwmgwsg.
Ar ddi-hun cawn roddi iaith
A’i rhannu â’r criw uniaith.
Yn y düwch, heb dewi,
drwy’r nos fe belydrwn ni:
Goleuo neuadd addysg
 dwy iaith sy’n deffro dysg.

I’r wawr mae pawb o’r un radd,
A godre’i golau’n gydradd;
Y mae’i hynt at ein mantais,
Mae cyrch ei llewyrch yn llais
I’r Cymry hy’n ddiwahân.
Mae’r Gymraeg ym moregan
y dydd; ac fe glywyd, do,
Ein heniaith yn ein huno.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *