Dyma i chi gerdd o’r archif. (Archif 2011, hynny yw!)
Cyfansoddwyd hon ger traffordd ym Mai 2011, a dyma hi’n cael ei pherfformio y tro cyntaf ym Mehefin yn Rockin’ Chair, Caerdydd. Mae’r testun isod hefyd.
Breuddwydio mewn Drive-Thru
Warrington Lymm, Ebrill 2011
Mae pawb ar darannau ar y cyffyrdd y dyddiau hyn,
neb yn anwylo’r daith, dim ond yn rhuthro i’w man gwyn
ar ddisberod, yn barhaus, ar ei hyd.
Ond i’r rhai blinderog, dihafan yn ein plith
mae lle i fwrw lludded nad yw’n rhith:
Services: 2 miles, yng nghesail y cyffyrdd clud.
Lle sy’n gyfarwydd rhwng dieithiriad, sy’n annwyl,
lle i gyfaddef ein dyheadau blin a sibrwd pob perwyl
sy’n gyffredin rhyngom,
am y troeadau a wnaed, am y milltiroedd a ddaw
yn boenus o obeithiol, a sgrial y traffig tu draw
i’r troad nesaf yn gwefru trwom.
Mwytho’r llain galed, llithro rhag stwyrian yr heol,
dilyn y llinell wen yn ofalus, ddefodol
a chael, yn gusan sgarled,
egwyl sy’n bersawr ar wddw’r cyfnos,
yn llenwi’r ffroenau, yn benysgafn o agos,
sy’n hudo’r afradlon heno’n gymuned:
Rhai’n byw i wario ac wedyn ffarwelio,
rhai’n lletya’n rhad hebddi neu hebddo,
rhai’n chwilio am westai, ambell latai,
rhai’n pendwmpian mewn car, criw’n heidio i’r bar,
rhai’n codi gwydyr, rhai’n darllen papur,
yn llowcio cwrw, yn torri’r garw,
yn chwennych cariad, yn ofni siarad,
rhai’n cario’r felan, rhai’n mynnu cloncian,
y ferch sy’n gweini peth tebyg i goffi,
y gweithwr gwallt-brân sy’n sgubo’r lloriau sydd byth yn lân
a’r rhai sydd am wylio’r cyfan yn mynd heibio
mewn oedfa fer sy’n ein tynnu i’w chôl
cyn i’r bore a’i siwrne ein dwyn ni yn ôl.
Daw llwncdestun o gyfeiriad anystywallt y truckstop:
mae cyfoedion unnos yn gyfeillion oes,
does na’m angen i neb yn fan hyn gario croes;
mae’r traffig di-baid yn profi bod,
y tu hwnt i’r ysbaid, ein llwybrau’n ddiddiwedd;
a heb chwilio na chael mae mwy na chynddaredd
ym mhatrymau mynd a dod.