Mi fûm i adref dros y Pasg; adref ym Mhwllheli.
Mi ges i gyflwyno cerdd am y tro cyntaf, fel rhan o lawnsiad diweddaraf cylchgrawn Tu Chwith, yn nhafarn Penlan Fawr , sef tafarn hynaf Pwllheli, ac un sydd dal yn arddel ei henw gwreiddiol hyd heddiw. Mae lot o’r hen enwau wedi mynd, ond mae chwilio amdanyn nhw yn ddiddorol o bryd i’w gilydd.
Rhyw deimlad felly dwi’n ei gael wrth fynd nôl i Bwllheli y dyddiau yma. Ym mhen arall Cymru – ganllath o fy nghartref yng Nghaerdydd – yn noson Bragdy’r Beirdd, Mawrth 2012 y recordiwyd y fersiwn yma.