Lumière

Yr wythnos hon, daeth rhifyn gwahanol o Barddas trwy’r bocs postio. Rhifyn Coffa Gerallt yw Barddas 325; tydw i heb fynd i’r afael â’i holl gynnwys amrywiol a diddorol yr olwg eto, ond gyda thaith tren yn ôl i’r gogledd dros gyfnod yr Ŵyl, buan y daw fy nghyfle. Ond wrth ddechrau bodio’r tudalennau, dyma […]

Prif Weinidog Cymru yn dweud ei farn am yr Alban.

Punnoedd Carwyn Jones

  “Os ga i ddefnyddio fy ngwleidyddol glowt, fe gewch chi fy nhamaid, a hynny heb ddowt: fe eith bob dim fan hyn off y rêls ped elem ni yma yn Englandandwêls; ‘Sna’m lle ar y cledrau i rannu’r bunt” medd Carwyn Jones o dan ei wynt. “Am na all y Fuwch sugno’r llo mae’n rhaid

Tymhorau Bogotá

[Dyma ddrafft cyntaf o gerdd; hynny ydi, daethpwyd i ben â hi y prynhawn ‘ma. Mae’n debyg mai fel hyn ydi’r ffordd orau o gael cynnwys ar y wefan, ac nid trwy boeni am fersiynau ‘terfynol’!] Yn ddiweddar bûm i’n teithio gogledd Sbaen. Mi wnes i hedfan i Barcelona yn hwyr ar y nos Lun, a’r

Hunanwasanaeth

Ddoe ar Twitter ymddangosodd cyfres wych o negeseuon gan @madeley  sydd wedi ei gofnodi ar ffurf Storify gan @Nwdls o dan y teitl “On being a rude Welsh speaker”. Darlenwch y cyfan, maen nhw’n werth eu darllen. Mae’n ymddangos fod @madeley yn flin iawn. Ac mi rydan ni gyd, fel Cymry Cymraeg wedi cael y profiad

Toiledau’r Tywysogion

Mae’n anodd dod o hyd i gofebau go iawn i Dywysogion brodorol Cymru heddiw. Mae cofeb yng Nghilmeri i Lywelyn ap Gruffydd wrth gwrs, sy’n ganolbwynt i ralîau cyson, ac yn Fecca i rai gwladgarwyr mawr. Os gyrrwch chi i’r gogledd ar hyd yr A470 mi ddowch at y gyffordd yn Llanfair ym Muallt, lle