Hel wythnos: AI, technoleg a’r problemau iawn

Wythnos fer sydd i’w hel wythnos yma gan fod gen i ddeuddydd i ffwrdd i wneud mymryn o siopa Nadolig.

Mae dau beth werth eu crybwyll.

Defnyddio GenAI i greu geirfa prosiect

Gofynodd Adrián imi adolygu ychydig i gynnwys ar gyfer y Llawlyfr Gwasanaeth sy’n ymwneud â (Deddf) Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dim ond cynnwys Saesneg sydd wedi’i baratoi ar hyn o bryd. Ond roeddwn i’n ymwybodol iawn fod peth wmbreth o gynnwys ar wefan Comsiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a lywodraeth Cymru – gan gynnwys llawer iawn o dermau penodol i’r maes.

Dyma daro felly ar syniad i ddefnyddio GenAI i greu geirfa gychwynnol i helpu i greu’r cynnwys Cymraeg. I fynd cam ymhellach, dwi’n meddwl fod sefyllfaoedd lle byddai defnyddio’r dull hwn ar gychwyn prosiect er mwyn hwyluso cyd-ddylunio cynnwys Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd yn gallu gweithio.

Dwi wedi ysgrifennu am yr hyn wnes i yma:
Defnyddio GenAI i greu geirfa prosiect

Digwyddiad Cymraeg a Thechnoleg, Comisiynydd y Gymraeg

Daeth dros 170 o bobl i’r digwyddiad ar-lein. Digwyddiad am dechnoleg oedd hwn, ac roedd cyflwyniadau eraill am:

Roeddwn i a Jo yn cyflwyno syniadau am ddylunio gwasanaethau modern trwy:

  • ddatrys y broblem iawn
  • canolbwyntio ar y defnyddwyr
  • cydweithio
  • ystyried technoleg fel seilwaith i benderfyniadau dylunio da.

Daeth cwestiwn (digon dilys, o ran cymhelliant) ar y diwedd yn procio pam na ddylen ni ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i lenwi bwlch mewn darpariaeth Gymraeg?

Gruff Prys o Ganolfan Bedwyr a ddwedodd yn y lle cyntaf (a dwi’n aralleirio yma…) na ddylen ni ddefnyddio LLMs fel ateb hawdd i lenwi bwlch mewn darpariaeth. Ategodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, bod egwyddorion gwasanaeth teg a chyfartal yn bwysig yma.

Mae’n teimlo fel bod hon yn drafodaeth dda i’w chael. Mae’n anffodus nad oedd gennyn ni amser i wyntyllu’r ddadl. Rydyn ni’n aml yn clywed trafodaethau am ‘ba dechnoleg y dylen ni ei defnyddio’ neu ‘sut i fabwysiadu’ technoleg mewn rhai cyd-destunau. Tydw i ddim yn teimlo ein bod yn trafod digon am pam rydyn ni’n defnyddio technoleg yn y lle cyntaf.

Rôl technoleg i ddatrys problemau

Wnes i ddim cyfrannu ar y pryd, achos fy mod yn dal i hel fy meddyliau. Ond mae’n glir i mi fod y demptasiwn i weld technoleg fel ateb i broblemau sefydliadol yn gryf iawn. Ond yn aml mae hynny yn digwydd ar draul defnyddwyr, achos mae’n hawdd gweld ‘effeithlonrwydd’ yn nhermau ‘gwneud bywyd yn haws’ i ni, y darparwyr.

Problem y sefydliad, nid y defnyddiwr, ydi cynnig darpariaeth Gymraeg, teg a hawdd ei ddefnyddio. Tydi defnyddio technoleg ynddo’i hun ddim am ateb problem y defnyddwyr.

Problem y defnyddwyr ydi eu bod angen defnyddio gwasanaeth neu gyflawni tasg mor hwylus a hawdd â phosib. Yn y pendraw, mae’r defnyddwyr eisiau bwrw ‘mlaen â’u bywydau yn ddidrafferth. Does affliw o ots gan y defnyddwyr pa dechnoleg sy’n hwyluso hynny.

Ystyriwch wasanaeth ble mai:

  • dim ond llinell ffôn sydd ar gael yn Saesneg
  • dim ond sgwrsfot sydd ar gael yn Gymraeg

Creodd y sefydliad sgwrsfot am nad oedden nhw’n medru llenwi swyddi yn y ganolfan alwadau. Ydi hynny yn wasanaeth cyfartal? Os ydyn ni’n cymryd yn ganiataol fod gallu sgwrsfot i ddatrys problemau defnyddwyr yn gyfyngedig iawn, yna maen anhebygol iawn bod defnyddwyr Cymraeg am allu defnyddio gwasanaeth heb godi’r ffôn a defnyddio’r gwasanaeth Saesneg. Gwasanaeth gwael i bawb. Cur pen i’r Comisiynydd.

Ond beth petai’r sgwrsfot yn ddatrysiad gwych i ateb 90% o gwestiynau defnyddwyr? Penigamp. Ond os felly, pam na fyddai’r gwasanaeth yn cynnwys:

  • sgwrsfot sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • llinell ffôn ddwyieithog effeithlon ar gyfer y 10% o ymholiadau eraill?

Y pwynt ydi, mae technoleg yn ddefnyddiol, dim ond os ydych chi wedi ystyried:

  • cyd-destun y defnyddwyr a’u hanghenion
  • cyd-destun gweinyddwyr y gwasanaeth (fel gweithwyr y llinell ffôn)
  • pa broblem yr ydych chi’n ei datrys mewn gwirionedd

Aeth y nodyn hwn ymlaen yn hirach na’r disgwyl, ac mae gen i siopa i’w wneud. Hwyl!

Scroll to Top