Podlediad Clera

Croesawu Podlediad Clera

Bu sôn ar Twitter ers tro fod rhifyn cyntaf Podlediad Clera yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, ac yn wir mae’r rhifyn cyntaf ar gael i chi wrando!

Gwrando ar rifyn cyntaf Podlediad Clera

Os na fedrwch chi aros, gallwch chi wrando ar y rhifyn cyntaf yma:

 Aneurig!

Baban y beirdd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yw Podlediad Clera. Neu, fel y maen nhw’n eu galw eu hunain, y “bwystfil barddol a elwir yn Aneurig”!

Mae gwagle wedi bod heb bodlediad Clera, heb yr un gofod penodol i drafod materion barddol, clywed cerddi llafar, cael gwersi cynganeddu neu hel clecs am glerwyr. Mae’r cyfrwng yn berffaith ar gyfer trafod y pynciau yma.

Diolch i’r ddau fardd am fwrw ati!

Beth fydd cynnwys Podlediad Clera?

O wrando ar y rhifyn cyntaf, sydd tua 50 munud o hyd, gallwn ddisgwyl digonedd o

  • Drafod pynciau llosg y dydd
  • Gwersi cynghanedd syml
  • cerdd y mis
  • clipiau sain o ddigwyddiadau barddol
  • newyddion o fyd y beirdd

Ces i’r fraint o gyfrannu ‘cerdd y mis’ ar gyfer y rhifyn cyntaf, felly mae fy niolch yn fawr i Aneurig am y cyfle i fod yn rhan o hynny. Fe fydd darllenwyr y blog hwn eisoes yn gyfarwydd hefo’r gerdd a adroddias ar y podlediad, sef Gwylnos. Fe’i cyhoeddwyd ar y blog hwn wythnos neu ddwy yn ôl.

Mae eisiau podlediad misol

Da fydd gweld sut y gall esblygu wrth sefydlu ei hun o ran cynnwys a chynulleidfa. Beth am fwydo’r podlediad trwy iTunes a Google Play i wneud yn siŵr na fydd neb a fyn wrando yn colli rhifyn?

Yn bersonol alla i ddim aros i glywed mwy o gyfeiriad Podlediad Clera. ond fe fydd hefyd yn apelio at bawb, dwi’n siŵr. Nid dim ond podlediad i gîcs barddol mo hwn!

Sŵn doeth, sŵn persain a da,
yw sŵn clir byd sy’n Clera.

 

2 thoughts on “Croesawu Podlediad Clera”

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *