Hel wythnos: Cyfarfodydd cymunedol a mwynder mentora

Roedd 2 o’r 3 digwyddiad olaf rydw i’n cymryd rhan ynddyn nhw, neu’n eu trefnu, erbyn diwedd y flwyddyn yn digwydd yr wythnos hon.

Cyfarfod Dylunio Cynnwys Cymru

Ddydd Mawrth, fe wnaethon ni groesawu Dan Warren o Parkinson’s UK i gymuned Dylunio Cynnwys Cymru. Roedd yn wych. Mae Dan yn wylaidd iawn a dangosodd ei waith i wella profiad y defnyddiwr mewn ffordd fesuradwy ar wefan Parkinson’s UK.

Fel cydlynydd (tydw i erioed wedi hoffi’r term ‘arweinydd’ mewn ystyr gymunedol, er bod tipyn o bopeth yn digwydd y tu ôl i’r llenni), roeddwn wedi ceisio bathu hwn fel sesiwn ‘hanes un ohonom’ (Saesneg: ‘hear from a peer’).

Fy ngobaith yw y gallwn gael mwy o ymarferwyr sydd ar wyneb y graig i rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud fel cyfoedion pobl eraill yn y gymuned. Ac nid dim ond gwesteion o’r tu allan chwaith, ond clywed gan rai sy’n aelodau o’r gymuned. Trwy roi ychydig ‘frand cynganeddol’ iddo, dwi’n gobeithio y bydd yn helpu pobl i wybod be gawn nhw mewn sesiwn o’r fath – golwg ar waith go iawn dylunydd cynnwys arall.

Un o’r heriau yw cael aelodau i siarad yn agored am eu gwaith. Rydyn ni i gyd weithiau’n teimlo nad ydi ein gwaith yn ddiddorol neu ddim werth siarad amdano. Dwi’n aml yn teimlo felly (ac mae hel wythnos yn fy helpu i ddal pen rheswm â’r teimlad hwnnw). Tybed hefyd a yw hyn yn deillio o’r ffaith bod aelodau sy’n gweithio mewn timau prysur busnes-fel-arfer neu rai arweinir gan raglenni, lle mae’n aml yn anoddach diffinio ‘prosiectau’ neu welliannau parhaus, mesuredig.

Cymuned cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Cefais wahoddiad gan fy nghyn-gydweithiwr, Vic Smith, i siarad â chymuned o ddylunwyr sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC). Roeddwn i’n siarad am ddylunio dwyieithog a sut mae cydweithio hyd yn oed yn bwysicach mewn cyd-destunau dwyieithog. Mae’r rhan fwyaf o’r gymuned yn Glasgow, felly tydw i ddim yn gwybod faint fydd yn gweithio’n uniongyrchol ar brosiectau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Fodd bynnag, fe wnaethan nhw ofyn llawer o gwestiynau da iawn, gan ddangos fod ganddyn nhw ddiddordeb a chwilfrydedd Ac rwy’n falch eu bod wedi gofyn cwestiynau, gan fy mod wrth fy modd yn clywed acen hyfryd Glasgow unwaith eto.

Yr unig beth nad aeth yn ôl y cynllun oedd bod fy mab rywsut wedi dianc o afael ei warchodwyr (fy rhieni), cyn dod i mewn i’m swyddfa a fy mhlagio am borsiwn o’i gyrains hoff am 35 munud o’r cyflwyniad 45 munud. Roedd hyn yn brawf o amynedd, ffocws ac anwybyddu eich cyntafanedig, ond roedd yn rhaid i mi ildio cwpl o weithiau a gadael iddo ddangos ei wên i’r camera. Roedd pawb o dan ei swyn, fel bob amser.

Mentora

Dwi wedi dechrau mentora person o sefydliad arall. Cyn-gydweithiwr arall i mi a’m rhoddodd mewn cysylltiad â’r person yn ddiweddar.

Roedd yn fraint bod rhywun wedi gofyn y ffasiwn beth i mi. Ar ôl y sesiwn gyntaf, lle roedd y mentai (ai dyma’r gair?!) yn gwbl agored a gonest, doeddwn i ddim yn siŵr o gwbl y gallwn helpu, mewn gwirionedd. Mae eu sefydliad yn swnio’n fawr ac yn gymhleth. Mae llawer o bethau allan o reolaeth y mentai.

Yn bendant, does gen i ddim mo’r holl atebion, felly ar gyfer yr ail sesiwn fe wnes i gynning rhywbeth gwahanol. Awgrymais y byddwn i’n eu helpu i edrych yn fwy gwrthrychol ar eu rôl, y disgwyliadau allanol a’u disgwyliadau eu hunain o fod yn ddylunydd cynnwys. Fe wnaethon ni ddefnyddio Fframwaith Galluoedd Proffesiwn Digidol a Data y Llywodraeth ar gyfer dylunydd cynnwys i fframio’r drafodaeth. Nid sgorio galluoedd oedd y nod. Yn hytrach, roedd yn ymwneud ag ystyried:

  • eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain (rhai canfyddedig a real)
  • pa gyfleoedd sydd o fewn ein rheolaeth neu ein gafael
  • pa gyfleoedd nad ydynt
  • unrhyw feysydd a oedd yn ddryslyd (mae’r diffiniadau ar gyfer gweithio’n ystwyth a meddwl yn strategol bob amser yn codi’u pennau ac yn creu trafodaeth dda)

Dechreuais deimlo fel ein bod ni’n dod yn canfod ffordd trwy’r drysni i’r ddau ohonom. Roeddwn i’n teimlo ychydig yn fwy hyderus ar ôl y sesiwn pan ddaeth yn amlwg bod y mentai eisiau cario ymlaen am sesiwn arall.

Gwaith arall:

  • adolygu rhywfaint o gynnwys Cymraeg ar y prototeipiau patrymau gwasanaeth. Mae Liam ac Adrián wedi llywio’r rhain i le gwych ac mae’n agos ati!
  • gwneud prawf byr iawn fel ffug-defnyddiwr i’r tîm sy’n gweithio ar fudd-daliadau Cymreig
  • ychydig o sesiynau un-i-un.
Scroll to Top