Wythnos fer sydd i’w hel wythnos yma gan fod gen i ddeuddydd i ffwrdd i wneud mymryn o siopa Nadolig.
Mae dau beth werth eu crybwyll.
Defnyddio GenAI i greu geirfa prosiect
Gofynodd Adrián imi adolygu ychydig i gynnwys ar gyfer y Llawlyfr Gwasanaeth sy’n ymwneud â (Deddf) Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dim ond cynnwys Saesneg sydd wedi’i baratoi ar hyn o bryd. Ond roeddwn i’n ymwybodol iawn fod peth wmbreth o gynnwys ar wefan Comsiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a lywodraeth Cymru – gan gynnwys llawer iawn o dermau penodol i’r maes.
Dyma daro felly ar syniad i ddefnyddio GenAI i greu geirfa gychwynnol i helpu i greu’r cynnwys Cymraeg. I fynd cam ymhellach, dwi’n meddwl fod sefyllfaoedd lle byddai defnyddio’r dull hwn ar gychwyn prosiect er mwyn hwyluso cyd-ddylunio cynnwys Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd yn gallu gweithio.
Dwi wedi ysgrifennu am yr hyn wnes i yma:
Defnyddio GenAI i greu geirfa prosiect
Digwyddiad Cymraeg a Thechnoleg, Comisiynydd y Gymraeg
Daeth dros 170 o bobl i’r digwyddiad ar-lein. Digwyddiad am dechnoleg oedd hwn, ac roedd cyflwyniadau eraill am:
- becyn Helô Blod Llywodraeth Cymru,
- galluoedd a chyfyngiadau LLMs gyda Chanolfan Bedwyr
- sesiwn dda gan Harry Thompson o Marvell Consulting and eu dull dwyieithog o’r dechrau.
Roeddwn i a Jo yn cyflwyno syniadau am ddylunio gwasanaethau modern trwy:
- ddatrys y broblem iawn
- canolbwyntio ar y defnyddwyr
- cydweithio
- ystyried technoleg fel seilwaith i benderfyniadau dylunio da.
Daeth cwestiwn (digon dilys, o ran cymhelliant) ar y diwedd yn procio pam na ddylen ni ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i lenwi bwlch mewn darpariaeth Gymraeg?
Gruff Prys o Ganolfan Bedwyr a ddwedodd yn y lle cyntaf (a dwi’n aralleirio yma…) na ddylen ni ddefnyddio LLMs fel ateb hawdd i lenwi bwlch mewn darpariaeth. Ategodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, bod egwyddorion gwasanaeth teg a chyfartal yn bwysig yma.
Mae’n teimlo fel bod hon yn drafodaeth dda i’w chael. Mae’n anffodus nad oedd gennyn ni amser i wyntyllu’r ddadl. Rydyn ni’n aml yn clywed trafodaethau am ‘ba dechnoleg y dylen ni ei defnyddio’ neu ‘sut i fabwysiadu’ technoleg mewn rhai cyd-destunau. Tydw i ddim yn teimlo ein bod yn trafod digon am pam rydyn ni’n defnyddio technoleg yn y lle cyntaf.
Rôl technoleg i ddatrys problemau
Wnes i ddim cyfrannu ar y pryd, achos fy mod yn dal i hel fy meddyliau. Ond mae’n glir i mi fod y demptasiwn i weld technoleg fel ateb i broblemau sefydliadol yn gryf iawn. Ond yn aml mae hynny yn digwydd ar draul defnyddwyr, achos mae’n hawdd gweld ‘effeithlonrwydd’ yn nhermau ‘gwneud bywyd yn haws’ i ni, y darparwyr.
Problem y sefydliad, nid y defnyddiwr, ydi cynnig darpariaeth Gymraeg, teg a hawdd ei ddefnyddio. Tydi defnyddio technoleg ynddo’i hun ddim am ateb problem y defnyddwyr.
Problem y defnyddwyr ydi eu bod angen defnyddio gwasanaeth neu gyflawni tasg mor hwylus a hawdd â phosib. Yn y pendraw, mae’r defnyddwyr eisiau bwrw ‘mlaen â’u bywydau yn ddidrafferth. Does affliw o ots gan y defnyddwyr pa dechnoleg sy’n hwyluso hynny.
Ystyriwch wasanaeth ble mai:
- dim ond llinell ffôn sydd ar gael yn Saesneg
- dim ond sgwrsfot sydd ar gael yn Gymraeg
Creodd y sefydliad sgwrsfot am nad oedden nhw’n medru llenwi swyddi yn y ganolfan alwadau. Ydi hynny yn wasanaeth cyfartal? Os ydyn ni’n cymryd yn ganiataol fod gallu sgwrsfot i ddatrys problemau defnyddwyr yn gyfyngedig iawn, yna maen anhebygol iawn bod defnyddwyr Cymraeg am allu defnyddio gwasanaeth heb godi’r ffôn a defnyddio’r gwasanaeth Saesneg. Gwasanaeth gwael i bawb. Cur pen i’r Comisiynydd.
Ond beth petai’r sgwrsfot yn ddatrysiad gwych i ateb 90% o gwestiynau defnyddwyr? Penigamp. Ond os felly, pam na fyddai’r gwasanaeth yn cynnwys:
- sgwrsfot sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- llinell ffôn ddwyieithog effeithlon ar gyfer y 10% o ymholiadau eraill?
Y pwynt ydi, mae technoleg yn ddefnyddiol, dim ond os ydych chi wedi ystyried:
- cyd-destun y defnyddwyr a’u hanghenion
- cyd-destun gweinyddwyr y gwasanaeth (fel gweithwyr y llinell ffôn)
- pa broblem yr ydych chi’n ei datrys mewn gwirionedd
Aeth y nodyn hwn ymlaen yn hirach na’r disgwyl, ac mae gen i siopa i’w wneud. Hwyl!