Inc yr Awen a’r Cread – Cerddi Byd Natur
Dyddiad: 30/03/2022
Cyhoeddais gerdd yng nghyfrol Inc yr Awen a’r Cread – Cerddi Byd Natur gan Gyhoeddiadau Barddas. Dyma gasgliad o gerddi sy’n dathlu ac yn adlewyrchu byd natur o’n cwmpas a’i ddylanwad arnom drwy farddoniaeth a llun. Ceir yma nifer o gerddi newydd sbon a rhai hen ffefrynnau – oll wedi eu plethu â ffotograffau lliwgar i ddangos byd natur ar ei orau. Roedd fy ngherdd innau yn ymwneud â pherthynas ddadfeiliedig dyn a natur. Sut mae diwydiant wedi harddu a dinistrio natur yr un pryd – ac eto wedi rhoi cymaint inni yn ddiwylliannol. Mae olion diwylliannol, diwydiannol a natur oll ynghlwm yn y mannau ôl-ddiwydiannol hyn.