Yn 2012 bûm i a’r cerddor adnabyddus Endaf Emlyn yn cydweithio i gyfansoddi cân am dref Pwllheli ar gyfer rhaglen Yma wyf Finnau i Fod ar BBC Radio Cymru.
Cyfansoddais innau’r geiriau a chyfansoddodd Endaf gân wefreiddiol i roi traed iddynt. Roedd hi’n fraint enfawr cael cydweithio hefo cerddor o safon a phrofiad Endaf.
Y Gân
Enw’r gân honno ydi “Ym mhen draw’r lein”.
Dyma eiriau’r gân i chi eu darllen gyda’r alaw.
Endaf Emlyn a fi
Mae Endaf Emlyn a finnau bellach yn byw yng Nghaerdydd; tasg anodd felly mynd ati i geisio cyfansoddi cân am Bwllheli. Ond mae geiriau’r gân yng ngenau alltud sydd â meddwl mawr o’r dref o hyd.
Olrhain hanes Pwllheli
Fel rhan o’r rhaglen buom hefyd yn siarad gyda rhai o drigolion lleol Pwllheli, sef yr hanesydd John Dilwyn Williams, perchennog tafarn Penlan Fawr Iwan Edgar, yr artist Catrin Williams, a’r athro Huw Meilir Williams.
Cafodd y rhaglen yn cael ei darlledu ar 20 Awst 2012 ar BBC Radio Cymru am 13:15. Cafodd ei hailddarlledu am 18:30 ar nos Sadwrn 25 Awst 2012.
Cân yr Wythnos Dafydd a Caryl
Yn ystod yr wythnos honno, bu’r gân hon yn Gân yr Wythnos ar raglen Dafydd a Caryl yn y bore ar Radio Cymru. Braint yn wir.
Mi wn fy mod innau ac Endaf yn parchu eu barn, felly mae’n anrhydedd bod y gân wedi ei henwebu fel cân yr wythnos ar eu rhaglen am yr wythnos hon.