Soned

Dyma gerdd newydd i chi. Soned ydi; a does gin i fyth amynedd rhoi teitlau i gerddi.

 

Soned

Disgynnodd y nos dros swildod Caerdydd
yn drwsgwl a gwlyb fel glasfyfyrwyr
yn cusanu’u rhyddid ar ddiwedd dydd.
Mae Heol yr Eglwys yn gwisgo’i cholur,
a sgerti byrion ar hyd Santes Fair;
sŵn gweiddi bechgyn fel chwalu gwydyr
wrth godi’u dyrnau dros ddwy neu dair.

Mae eco sy’n aros mor ddiwahân
yn taflu lleisiau o bell ac agos
drwy’r strydoedd gweigion sy’n llawn ysbryd glân,
cariad a chasineb criwiau unnos:
wedi i’r bore sgubo neithiwr o’r stryd,
bydd oglau’r glaw mân ar ein dillad o hyd.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *