[Dyma ddrafft cyntaf o gerdd; hynny ydi, daethpwyd i ben â hi y prynhawn ‘ma. Mae’n debyg mai fel hyn ydi’r ffordd orau o gael cynnwys ar y wefan, ac nid trwy boeni am fersiynau ‘terfynol’!]
Yn ddiweddar bûm i’n teithio gogledd Sbaen. Mi wnes i hedfan i Barcelona yn hwyr ar y nos Lun, a’r hostel yn weddol dawel. Dyma fi’n ffeindio fy hun yn rhannu ystafell gyda Natalia, merch o Bogotá.
Doedd hi ddim yn edrych yn falch iawn o ‘ngweld i yn syth. Mae’n debyg ei bod hi wedi rhagweld cael ‘dorm’ gyfan iddi hi ei hun am noson, a finnau wedi tarfu.
Cyn hir, dyma dorri gair, gofyn y cwestiynau hynny sydd mor gyffredin rhwng gwesteion hostel wrth dorri’r garw: Un o le wyt ti? Lle ti di bod yn teithio? Lle wyt ti’n mynd? Doedd hi fawr o dro cyn ein bod wedi troi ein golygon at ein gwledydd ein hunain. Siaradai hithau yn llawn brwdfrydedd am Golombia, a minnau am Gymru.
Wedi trafod mynyddoedd, conquistadores, Gabriel García Márquez a Dafydd Iwan (!) yr hyn am tarodd i oedd ein sgwrs am y tywydd. Soniodd ei bod, ar y cyfan, yn rhyw fath o wanwyn parhaus yng Ngholombia yn sgil ei daearyddiaeth. Does dim amrywiaeth mawr yn nifer oriau’r dydd o un pen y flwyddyn i’r llall. Ar ambell daith i Ewrop roedd wedi rhyfeddu at yr hydref; wrth inni drafod tywydd Cymru dywedodd wrtha i y byddai wrth ei bodd yn profi tymhorau fel y ni.
Doeddwn i erioed wedi ystyried yn iawn cyn hynny pa mor wirioneddol greiddiol i’n ffordd ni o fyw ydi ein patrymau tymhorol. Mae’n gwbl amlwg ar un olwg, ond eto mi rydan ni’n cymryd y peth mor ganiataol hefyd. Yn syrffedu ambell dro, yn gorfoleddu dro arall. Ystyriwch waith Dafydd ap Gwilym neu Dic Jones heb ddylanwad y tymhorau!
Os rhywbeth mae’r cylch mawr blynyddol yn rhan o’n braint ecolegol ni. Yn y darn hwn o dir, mae’n dealltwriaeth ni o’r byd yn llwyr ddibynnol ar ein profiad ni o’r cylch hwn. Pa ffordd well o ddysgu am eich gwlad na siarad gyda chyfaill newydd o gyfandir gwahanol?
Tymhorau Bogotá
I Natalia
“Mi hoffwn petai gennym dymhorau fel y chi”
Medd y ferch o Bogotá; hyn er i mi
esbonio hynodedd ein pedwar math o law:
“‘Chefais i erioed deimlo’r eira yn fy llaw”
Llefarai am wlad bell sydd ag ond un hyd i’w dydd
Lle na fu Alban Arthan erioed yn y ffydd.
Sut wir fyddai Cymru pe beidiai pob tymor yn stond?
Dim Mai na Ionawr i herio Dafydd ap; dim ond
Coel nad ydi blagur o bwys yn y byd;
Dim dadeni dewinol; mae hi’n wanwyn o hyd.
O galan i galan, o un heuldro i’r llall,
Mae’r patrwm a’n cythrudda’n ein cadw ni’n gall:
Rhoi’r haf yn ein mynwes, cadw’r gaeaf ar war oer;
Cyfri oriau’n dyddiau ar bendil yr haul a’r lloer.
Fe welodd hi liwiau’r hydref, ond hynny dim ond un waith;
Ni allwn ddangos iddi’r eira ond gyda mymryn iaith:
A thrwy luwchfeydd ein geiriau ar ddechrau ha’
Roedd ôl traed yn cydgerdded rhwng Cymru a Bogotá.
Llun: “Bogotá de noche” gan Jorge Díaz – Flickr: adiós a Bogotá. Dan drwydded CC BY-SA 2.0 trwy Wikimedia Commons.