Ddoe ar Twitter ymddangosodd cyfres wych o negeseuon gan @madeley sydd wedi ei gofnodi ar ffurf Storify gan @Nwdls o dan y teitl “On being a rude Welsh speaker”. Darlenwch y cyfan, maen nhw’n werth eu darllen.
Mae’n ymddangos fod @madeley yn flin iawn. Ac mi rydan ni gyd, fel Cymry Cymraeg wedi cael y profiad mai ni ydi’r allanolion. Y ni sy’n gorfod plygu i wneud i eraill deimlo’n gyffyrddus. Y ni sydd bob tro’n euog o droi at Saesneg pan fo un allan o griw o ddeg yn methu’r Gymraeg. Mae hyn, yn anffodus, yn ein seici ni, y Cymry clên.
Dyma wedyn gofio am gerdd a wnes i ddiwedd llynedd yn sôn am sut mae’r Gymraeg bron yn cael ei gosod fel maen melin am ein gyddfau. Os defnyddioch chi beiriant hunanwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg erioed, byddwch yn gyfarwydd â’r cynnydd sydyn yn sain llais y peiriant wrth ddewis eich mamiaith, bron fel tae rhywun yn trio ein ‘owtio’; “ylwch hwn yn defnyddio’r Gymraeg, ylwch arno fo, yn mynd i fwyta ei digestives yn Gymraeg ar ôl mynd adra, hahaha!”
Dipyn o anghyfleustra i bobl eraill ydi’n hiaith yn ôl pob tebyg. Ond eu problem nhw ydi hynny yndê? Yng ngeiriau @madeley, “Claiming ‘rudeness’ when someone uses their own language is privileging the temporary comfort of an oppressive majority.”