Podlediad Clera

Croesawu Podlediad Clera

Bu sôn ar Twitter ers tro fod rhifyn cyntaf Podlediad Clera yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, ac yn wir mae’r rhifyn cyntaf ar gael i chi wrando! Gwrando ar rifyn cyntaf Podlediad Clera Os na fedrwch chi aros, gallwch chi wrando ar y rhifyn cyntaf yma:  Aneurig! Baban y beirdd Aneirin Karadog ac Eurig

David Davies yn gweld dannedd mewnfudwr

Cyngor i David Davies AS/MP

Bu’n hysbys i nifer o bobol ers tro fod rhywbeth anarferol am y gwleidydd Torïaidd, David Davies. Ei ddaliadau yn un peth. Mae wedi pleidleisio o blaid  sawl peth amheus iawn, a phleidleisio yn erbyn sawl peth goleuedig arall (gadawaf i chi wneud eich hymchwil eich hun). Ond daeth yn amlycach byth yr wythnos hon for y

Cerdd 'Mewn Dau Gae Pêl-droed' gan Osian Rhys Jones

Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed

Mae ‘Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed’ yn barodi ar gerdd enwog ac yn gerdd bêl-droed. Gan ei bod hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, mae eraill yn ymgymryd â heriau gwirion fer Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru (faswn i byth yn gwneud y ffasiwn beth…). Ond i mi, gan ei bod hi’n ddiwrnod cenedlaethol barddoniaeth a bod Cymru

Gwyn Thomas, Bardd

Teyrnged i Gwyn Thomas

Ychydig wythnosau yn ôl ar S4C darlledwyd rhaglen Gŵr Geiriau ar S4C. Rhaglen oedd hi yn dilyn Gwyn Thomas wrth iddo holi artistiaid o’r hyn yr ystyriant hwy i fod yn “awen” iddyn nhw, a sut yn union yr oeddynt yn dod i greu eu caneuon, eu paentiadau neu eu cerddi. Roedd yn enghraifft berffaith

Cadwch eich blydi xips!

Os byddwch chi erioed wedi yngan y geiriau chips, chili neu tsiaen, ac yna wedi troi at bapur a beiro neu sgrin gyfrifiadur i nodi’r geiriau yna mewn brawddeg ‘gywir’ Gymraeg – byddwch chi yn siŵr o fod wedi ffeindioch hun yn teimlo bod rhaid sillafu’r geiriau hyn, yn Gymraeg, fel tsips, tsili neu, wel,

Map Etholiadol Cymru

Anaml iawn y mae mapiau yn dweud celwydd. Roedd edrych ar fapiau etholiadol Prydain a Chymru yn brofiad anodd y bore ma. Mae llwyddiant ysgubol y Torïaid (a methiant dybryd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol) yn Lloegr yn golygu mai mwy o’r un peth sydd yn ein disgwyl. Roedd parhad ystyfnig cefnogaeth y Blaid Lafur (er gwaetha’r cwymp

Ymateb Mike Parker

Gwlad y Menyg Gwynion

Mae ‘na ddelwedd o Gymru sydd wedi goroesi, sy’n gyfleus iawn i rai carfannau. Mae’n codi’i ben yn aml yn y byd gwleidyddol, pan fyddwn ni’n cael ein hannog yn aml i roi ein barn i blesio eraill, i ategu rhyw bwynt (mae’r Cymry’n cytuno!), neu chwarae’r Plwmsan i Wynff rhywun arall. Ar ôl i’r baw

I Lawr i Rio Dulce

Y llynedd es am dro i Guatemala yn America Ganol. Cefais un daith fws hunllefus o hardd a hir, o ganoldir mynyddig y wlad, lle bûm yn aros mewn cwt diwaliau yn jwngl Lanquin, yr holl ffordd i Rio Dulce, tref ar lan afon o’r un enw, a honno â’i haber ym Môr y Caribi yn

Lumière

Yr wythnos hon, daeth rhifyn gwahanol o Barddas trwy’r bocs postio. Rhifyn Coffa Gerallt yw Barddas 325; tydw i heb fynd i’r afael â’i holl gynnwys amrywiol a diddorol yr olwg eto, ond gyda thaith tren yn ôl i’r gogledd dros gyfnod yr Ŵyl, buan y daw fy nghyfle. Ond wrth ddechrau bodio’r tudalennau, dyma

Prif Weinidog Cymru yn dweud ei farn am yr Alban.

Punnoedd Carwyn Jones

  “Os ga i ddefnyddio fy ngwleidyddol glowt, fe gewch chi fy nhamaid, a hynny heb ddowt: fe eith bob dim fan hyn off y rêls ped elem ni yma yn Englandandwêls; ‘Sna’m lle ar y cledrau i rannu’r bunt” medd Carwyn Jones o dan ei wynt. “Am na all y Fuwch sugno’r llo mae’n rhaid

Tymhorau Bogotá

[Dyma ddrafft cyntaf o gerdd; hynny ydi, daethpwyd i ben â hi y prynhawn ‘ma. Mae’n debyg mai fel hyn ydi’r ffordd orau o gael cynnwys ar y wefan, ac nid trwy boeni am fersiynau ‘terfynol’!] Yn ddiweddar bûm i’n teithio gogledd Sbaen. Mi wnes i hedfan i Barcelona yn hwyr ar y nos Lun, a’r

Hunanwasanaeth

Ddoe ar Twitter ymddangosodd cyfres wych o negeseuon gan @madeley  sydd wedi ei gofnodi ar ffurf Storify gan @Nwdls o dan y teitl “On being a rude Welsh speaker”. Darlenwch y cyfan, maen nhw’n werth eu darllen. Mae’n ymddangos fod @madeley yn flin iawn. Ac mi rydan ni gyd, fel Cymry Cymraeg wedi cael y profiad

Toiledau’r Tywysogion

Mae’n anodd dod o hyd i gofebau go iawn i Dywysogion brodorol Cymru heddiw. Mae cofeb yng Nghilmeri i Lywelyn ap Gruffydd wrth gwrs, sy’n ganolbwynt i ralîau cyson, ac yn Fecca i rai gwladgarwyr mawr. Os gyrrwch chi i’r gogledd ar hyd yr A470 mi ddowch at y gyffordd yn Llanfair ym Muallt, lle

Englyn ar glawr feinyl O’r Nyth

Oni bai eich bod wedi bod gyda’ch pen yn eich plu dros y blynyddoedd a fu, mi fyddwch chi wedi clywed am ddigwyddiadau Nyth yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mi fyddwch hefyd wedi clywed yn ddiweddar am brosiect diweddaraf rhai o hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw prysuraf Cymru. Mae’n nhw newydd lansio Feinyl “O’r Nyth” sy’n deitl

Canolfan Mileniwm Cymru - Awr Ddaear

Awr Ddaear

Dyma gerdd fach i gyd-fynd ag Awr Ddaear (WWF Cymru) eleni, sy’n digwydd heddiw, 23 Mawrth. Mae’n anodd diffodd y pethau sy’n llywodraethu ein bywyd erbyn hyn, ond mae’n werth gwneud hynny o bryd i’w gilydd. Awr Ddaear Rhoddi awr i ddaearu gwareiddiad; Ac o’i roddi, syllu Ar ddawn yr hen awyr ddu Ei hunan

Eira, Cariad.

Maddeuwch i mi am led-fenthyg teitl cyfrol o farddoniaeth gan Geraint Jarman fel pennawd i’r cofnod hwn, ond mae’n addas iawn i’r hyn sgen i i’w rannu efo chi! Oherwydd y tywydd oer gaeafol dros y dyddiau diwethaf a hynny hefyd yn y dyddiau yn arwain at ddydd nawddsant y cariadon yfory, fe gefais fy

Y Felan Fawr

Dwi wastad wedi bod yn hoff o gerddoriaeth blŵs. A thua’r adeg yma o’r flwyddyn, pan mae’n tywyllu, mae’r blŵs yn ymgyrffori ei hun bron yn y dyddiau byrion, y glaw a’r gwynt Cymreig, a rheiny’n lapio amdanom nes bod y felan yn rhan o fywyd bob dydd. Heb sôn am ei bod hi’n tueddu

Soned

Dyma gerdd newydd i chi. Soned ydi; a does gin i fyth amynedd rhoi teitlau i gerddi.   Soned Disgynnodd y nos dros swildod Caerdydd yn drwsgwl a gwlyb fel glasfyfyrwyr yn cusanu’u rhyddid ar ddiwedd dydd. Mae Heol yr Eglwys yn gwisgo’i cholur, a sgerti byrion ar hyd Santes Fair; sŵn gweiddi bechgyn fel

Ym mhen draw’r lein: geiriau’r gân

Dyma eiriau cân ‘Ym mhen draw’r lein’, cân am dref Pwllheli. Lle ar ben draw’r lein ydi Pwllheli. Lle mae sawl taith yn cychwyn ond hefyd yn gorffen. Trwy ganiatâd Endaf Emlyn, gosodwyd y gân ar Soundcloud hefyd. Dyma fymryn yn rhagor am hanes y gân a’r rhaglen. A dyma’r geiriau i chi hefyd, rhag

Barddas – Rhifyn yr Eisteddfod 2012

Mae gen i bwt o erthygl yn rhifyn diweddaraf Barddas. Dwi ddim am ei hatgynhyrchu yma, na sôn amdani rhyw lawer, achos mi gewch chi brynu’r cylchgrawn eich hunain! Mae’r erthygl yn fras yn gosod her i’r Gymdeithas Gerdd Dafod a beirdd Cymru yn gyffredinol y fywiogi eu hymarfer fel beirdd. Pregethu mae’r beirdd o

Llyfr Aneirin

I Aneirin, Laura a Sisial Mae fy llyfryn i’n fwy na dwrn o dudalennau neu bluen gynnil yn cosi’r cloriau; mwy na diadell o eiriau yng nghorlan y gân neu’r lludw sydd gen i’n dystiolaeth o’r tân. Mae’n un map mawr maith sy’n blygion i gyd a’r papur yn breuo o’i gario cyhyd, yn llyfr

Ar grwydr ym Mhwllheli

Mi fûm i adref dros y Pasg; adref ym Mhwllheli. Mi ges i gyflwyno cerdd am y tro cyntaf, fel rhan o lawnsiad diweddaraf cylchgrawn Tu Chwith, yn nhafarn Penlan Fawr , sef tafarn hynaf Pwllheli, ac un sydd dal yn arddel ei henw gwreiddiol hyd heddiw. Mae lot o’r hen enwau wedi mynd, ond mae chwilio amdanyn nhw

Breuddwydio Mewn Drive-thru

Dyma i chi gerdd o’r archif. (Archif 2011, hynny yw!) Cyfansoddwyd hon ger traffordd ym Mai 2011, a dyma hi’n cael ei pherfformio y tro cyntaf ym Mehefin yn Rockin’ Chair, Caerdydd. Mae’r testun isod hefyd. Breuddwydio mewn Drive-Thru Warrington Lymm, Ebrill 2011 Mae pawb ar darannau ar y cyffyrdd y dyddiau hyn, neb yn

I Draffig y Draffordd

Dyma englyn (nid “englyn bach”, pam bod rhai beirdd yn mynnu dweud “englyn bach”?) a ddaeth wrth deithio ar hyd traffordd brysur yn ardal Eisteddfod Wrecsam eleni. Gyrrant, gyrrant i’n gwared, i waliau’r ymylon, ond bydded o’i hawlio’n y lôn a’i led le i’n gwyl ar lain galed.

Kurt Cobain

Kurt Cobain

Dyma gerdd i Kurt Cobain. Pan oeddwn yn fy arddegau, Nirvana oedd un o’r bandiau a oedd yn cael chwarae ar lŵp ar fy Hi-Fi. Roeddwn i’n cŵl yn y modd hwnnw. Diolch i’r Annedd am ei gyhoeddi dro nôl. Kurt Cobain Yn rhy ddig daw’r arddegau i’n rhan, y poenydwyr iau; daw’r ing, y

Dreifars Sala’r Sul

Mi wnes i yrru o’r Ffôr i Aberystwyth heddiw. Does gen i fawr o serch tuag at y daith hon gan fy mod i wedi ei gwneud filoedd o droeon ar fws ac mewn car. Beth sy’n waeth na hyn wrth gwrs yw gwneud y daith ar y Sul. Mae na bob math o yrwyr

Scroll to Top