Barddas – Rhifyn yr Eisteddfod 2012

Mae gen i bwt o erthygl yn rhifyn diweddaraf Barddas. Dwi ddim am ei hatgynhyrchu yma, na sôn amdani rhyw lawer, achos mi gewch chi brynu’r cylchgrawn eich hunain! Mae’r erthygl yn fras yn gosod her i’r Gymdeithas Gerdd Dafod a beirdd Cymru yn gyffredinol y fywiogi eu hymarfer fel beirdd. Pregethu mae’r beirdd o […]

Llyfr Aneirin

I Aneirin, Laura a Sisial Mae fy llyfryn i’n fwy na dwrn o dudalennau neu bluen gynnil yn cosi’r cloriau; mwy na diadell o eiriau yng nghorlan y gân neu’r lludw sydd gen i’n dystiolaeth o’r tân. Mae’n un map mawr maith sy’n blygion i gyd a’r papur yn breuo o’i gario cyhyd, yn llyfr

Ar grwydr ym Mhwllheli

Mi fûm i adref dros y Pasg; adref ym Mhwllheli. Mi ges i gyflwyno cerdd am y tro cyntaf, fel rhan o lawnsiad diweddaraf cylchgrawn Tu Chwith, yn nhafarn Penlan Fawr , sef tafarn hynaf Pwllheli, ac un sydd dal yn arddel ei henw gwreiddiol hyd heddiw. Mae lot o’r hen enwau wedi mynd, ond mae chwilio amdanyn nhw

Breuddwydio Mewn Drive-thru

Dyma i chi gerdd o’r archif. (Archif 2011, hynny yw!) Cyfansoddwyd hon ger traffordd ym Mai 2011, a dyma hi’n cael ei pherfformio y tro cyntaf ym Mehefin yn Rockin’ Chair, Caerdydd. Mae’r testun isod hefyd. Breuddwydio mewn Drive-Thru Warrington Lymm, Ebrill 2011 Mae pawb ar darannau ar y cyffyrdd y dyddiau hyn, neb yn