Mae’n anodd dod o hyd i gofebau go iawn i Dywysogion brodorol Cymru heddiw.
Mae cofeb yng Nghilmeri i Lywelyn ap Gruffydd wrth gwrs, sy’n ganolbwynt i ralîau cyson, ac yn Fecca i rai gwladgarwyr mawr.
Os gyrrwch chi i’r gogledd ar hyd yr A470 mi ddowch at y gyffordd yn Llanfair ym Muallt, lle mae murlun mawr o’ch blaen. Un o’r manylion difyrraf arno ydi darlun o Madog Goch. Dywedir mai gof oedd Madog Goch a gynorthwyodd Llywelyn ap Gruffudd i ddianc rhag y gelyn mewn tywydd mawr. Lluwch eira. Yr hyn a wnaeth i gynorthwyo Llywelyn oedd pedoli ei geffyl, a hynny i’r cyfeiriad gwrthol. Hynny ydi, pe gwelid olion carnau ceffyl Llywelyn yn yr eira, byddai’r gelynion yn tybio iddo fynd i’r cyfeiriad arall yn llwyr. Mae’n siŵr na chawn ni fyth wybod beth oedd yn mynd trwy feddwl y ceffyl yn hyn i gyd.
Eto wedyn mae dechrau ar waith yn Llys Rhosyr i adfer archeoleg o adfeilion ar Ynys Môn, ac i greu canolfan ddehongli werth chweil at y dyfodol. Pob lwc i Gyfeillion Llys Rhosyr; byddai’n dda gweld ffrwyth y gwaith yn fuan. Mae na obaith i archeoleg ein hachub ni eto.
Y peth rhyfeddaf am hyn oll ydi bod un arddangosfa am y Tywysogion yn bod, a honno’n ddigon o sioe, mewn adeilad eithaf anarferol yn un o’r trigfannau eraill y cysylltwn ni â’r Tywysogion, sef Abergwyngregyn. Oddi ar yr A55, un o’r llefydd anghofiedig hynny yn ein hanes bellach ydi Aber, a’r Cymry a’r Saeson yn gwibio heibio yr un mor ddi-hid â’i gilydd. Lle tybiwch chi y gosodwyd yr arddangosfa dan sylw? Wel mewn toiledau cyhoeddus, siŵr iawn. Os cewch gyfle i fynd i gyfleusterau cyhoeddus Tŷ Pwmp, gwnewch hynny da chi i dalu gwrogaeth i’r hen Dywysogion; dim ond i chi gofio tynnnu’r dŵr ar eich hôl.
Doeddwn i’n methu â phenderfynu ai trist, gwych ynteu abswrd ydi hyn o beth. Felly cyfansoddais gerdd oedd yn cyffwrdd ar y tripheth. Dwn i ddim a ydi hynny yn cael ei gyfleu mewn geiriau noeth. Efallai bod angen recordio fersiwn…
Toiledau’r Tywysogion
Ar yr A55, mae’r Cymry’n gwybod y sgôr:
Môn yn dywyll y tu hwnt i ddŵr llwyd y môr,
y ceir yn un llif ar bnawn gwlyb o haf
a’r awyr biblyd Gymreig am ein cadw ni yn glaf,
Fel arfer, roedd ein tymer fel y tywydd
ac felly’r o’wn innau wrth ddechrau teimlo’r awydd-
rhywbeth yn y stumog yn cnocio drws y gell;
sgrialais at gyffordd, gan fod Bangor yn rhy bell
i aros am le glân, lle fflysh i chwythu’r gasget –
a dymunais gael lle yn Aber a’i lond o bapur toilet;
Lle o bwys, meddyliais; ond roedd y pwys i gyd arnaf i,
a doedd ots oherwydd hynny am gyflwr y lle pi-pi.
Disgwyliwn “Call Bangor 549 – gagging ffor a ffics”
neu ar y wal: “Llywelyn the Great waz ‘ere – 1236”
ond na, yn Nhŷ Pwmp, lle mae pwmp o sawl math i’w gael,
stopiais i styried – a wnaed rhyw jôc ar fy nraul?
Dehongliadau ystyrlon, cymdeithaseg yr oes, yn wir
fe oedais uwchben y panel am Lywelyn Fawr braidd yn hir:
wrth ddilyn y Tywysogion, pob un i’w nawfed ach,
cofiais mai’r rheswm am stopio oedd nid i gael fflach
o ysbrydoliaeth am etifeddion gwlad a theyrnas;
o ystyried eu ffawd, onid oes llefydd llawer mwy addas
na chwt o le chwech ar ochor ffordd ddeuol?
Ar fy ngorsedd ystyriais ble arall âi’r Cymry i’w canmol…
Ym Muallt mae ‘na furlun, wrth droi tua Gwynedd o’r de,
a phedolau Madog Goch yn ein harwain yn saff o’r dre
ond mae’r gaeaf yn oer yng ngherrig y mur
ac Irfon yn aros i olchi gwaed y gwŷr.
Yn Llys Rhosyr mae ‘na sgwaryn o gerrig ar y llawr
lle mae’n anodd dychmygu gorsedd Llywelyn Fawr
ond a awn ni yno rhyw ddydd, a neb yn troi eu trwyn,
a’r sbwriel yn cyffroi pob un fel mae’n cyffroi Rhys Mwyn?
Ac ar ôl i minnau gael amser i bwyso a mesur
a gorffen y gwaith o ryddhau pob dolur,
gallwn weld ar y gorwel, cyn ei throi yn ôl am y lôn,
rhyw goron o olau yn wincio’n danllyd o Fôn.
Ac yn y maes parcio, daeth Sais ataf a gofyn
ai “pebble dash” oedd y cyfieithiad cywir o Abergwyngregyn?
Gwyddwn yn fy mherfedd fod ail gynnwrf ar y gweill,
am fod arddangosfa mewn lle chwech, o leia’, yn cachu ar y lleill.