Nid golwg dechnolegol ar ddeallusrwydd artiffisial sydd yma. Rydw i’n edrych ar gyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial o ran datrys problemau go iawn, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn benodol ystyriaethau newydd i sefydliadau sydd yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Yn gyntaf, dwi or farn mai’r peth cyntaf y dylem oll wneud ydi anwybyddu’r gor-ddweud a’r heip.
Mae Paradox Jevon yn awgrymu mai creu rhagor o waith fydd DA, nid diléu rolau. Mae hanes diweddar cyfieithu ei hun yn enghraifft o hynny; trwy gyfrwng cyfieithu perianyddol, mae cyfieithwyr wedi bod yn defnyddio agweddau ar DA ers blynyddoedd gan gyfiethu mwy a mwy i helpu sefydliadau gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Nawr bod y dechnoleg DA ar gael yn fwy eang, mae’n hawdd gweld cyfle i wneud ‘arbedion’ trwy awtomeiddio elfennau’n llwyr. Ond siawns na fydd gwaith y dyfodol yn diflannu, dim ond troi’n waith gwahanol; gwaith rhesymu, gwaith dynol, meddylgar.
Gwreiddio neu aralleiddio
Mae perygl (bychan, ond gwirioneddol) y caiff y Gymraeg ei haralleiddio o fewn proses o ddefnyddio DA i fod yn sefydliadau neu gwmnïau mwy effeithlon. Mae’n hawdd awtomeiddio pethau nad ydych chi’n ei ddeall. Rôlau pobl eraill, gwaith anweledig ond pwysig, darpariaeth i leiafrifoedd a’r difreintiedig…
Beth yw goblygiadau hynny i’r Gymraeg a’r bobl sy’n ei defnyddio bod dydd? Llai o amser yn cyfieithu? Mwy o amser yn ystyried natur darpariaeth Gymraeg a’r dulliau addas o gynnal y ddarpariaeth?
Mae’n demtasiwn i sefydliadau geisio canfod ateb hawdd mewn byd sy’n symud yn sydyn.
Mae angen gwreiddio’r Gymraeg,, ac ystyriaeth ohoni yn sut y byddwn ni yn defnyddio DA wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae hefyd angen meddwl am y bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau a goblygiadau DA ar eu bywydau.
Rolau’r Comisiynydd a’r Cymry
Yn y dyfodol, dylai rôl Comisiynydd y Gymraeg, a’r Cymry Cymraeg o fewn sefydliadau, ymwneud â helpu pawb i ddeall nad cyfrwng cyfathrebu (neu eiriau) yn unig ydi iaith ond mynegiant Cymraeg o syniadau a chanfyddiadau o’r byd yr ydyn ni’n byw ynddo. A thrwy hynny yn unig y medrwn ni ddarparu gwasanaethau sy’n effeithiol.
Gall DA drosi geiriau o un iaith i’r llall ond ni all ddeall diwylliannau, cymelliannau a heriau pobl ar draws ffiniau ieithyddol, economaidd a chymdeithasol.
Un o nodau strategol y Comisiynydd yw hybu’r Gymraeg mewn gweithleoedd. Er bod bwriad llawer o sefydliadau yn ddigon cymeradwy, mae perygl i’r Gymraeg gael dim mwy na lle tocenistaidd yn hyn y beth – gweithle lle mae’r Gymraeg i’w gweld a’i chlywed fwy, ond lle nad oes dim yn y bon wedi newid. Ond beth petai hybu’r Gymraeg yn golygu symud neu ddyrchafu ein siaradwyr Cymraeg i rolau sy’n hollbwysig i ddarparu gwasnaethau dwyieithog da – rolau sy’n Cymreigio diwylliant sefydliadau, yn newid prosesau o’r tu fewn er mwyn darparu gwasanaethau gwell?
Os ydyn ni’n dylunio gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr – pobl Cymru – yna mae angen inni feddwl am dechnoleg fel ffordd o hwyluso’r nod hwnnw, nid cyffredinoli’r boblogaeth na thorri carfan gyfan o bobl allan o’n dealltwriaeth o gymdeithas Cymru.
Nid yw dylunio ar gyfer cynulleidfa Saesneg eu hiaith ac yna cyfieithu’r rhyngwyneb i’r Gymraeg yn ffordd ddigonol nac addas o ddarparu gwasanaethau. Mae angen deall y cyd-destun unigryw Cymraeg, a darparu a dylunio ar ei gyfer.
Nid effeithlonrwydd yw’r (unig) nod i ddarparwyr gwasanaeth, er gwaethaf eu heriau ariannol, ond effeithiolrwydd gwasanaethau i bawb sy’n eu defnyddio. Heb hynny, does dim cynaliadwyedd na budd hir-dymor i’r sefydliad chwaith.
Cyrchu gwybodaeth trwy GenAI
A fydd pobl yn y dyfodol yn cael eu gwybodaeth yn bennaf trwy rhyngwyneb fel ChatGPT? Mae llawer eisoes yn gwneud hynny. Beth yw golblygiadau hynny i’r Gymraeg?
Fel y nododd y dylunydd cynnwys Nia Campbell, rydym mewn cyfnod newydd lle nad yw pobl yn chwilio, maen nhw’n sgwrsio. Dydyn nhw ddim yn pori, maen nhw’n dirprwyo.
Mae ChatGPT (a’i debyg) yn:
- cryhoi cynnwys yn lle cyfeirio ato
- personoli cynnwys i gefnogi ymholiadau cymhleth a sgwrsiau dwfn
- dewis pa ffynhonnell i’w ddyfynnu (a pha rai i’w hanwybyddu)
- awgrymu beth y dylai rhywun ei wneud nesaf
Fel hyn mae llawer o bobl am gael eu gwybodaeth.
Beth yw goblygiadau hyn i’r Gymraeg a chydymffurfio?
- A fydd rhyngwyneb Cymraeg i blatfform fel ChatGPT? A fydd modd ei ddefnyddio yn llwyr yn Gymraeg?
- A fydd angen ffynhonellau Cymraeg eu hiaith neu a all ChatGPT gyfieithu ffynonellau di-Gymraeg ar hap, a darparu’r wasanaeth honno yn iaith y defnyddiwr?
- Be ydyn ni fel Cymry Cymraeg yn ei ddeisyfu neu’i ddymuno? Beth yn y dyfodol fydd gwasanaeth derbyniol i ni?
- A fyddwn yn dibynnu ar gwmniau rhyngwladol enfawr i ddarparu ar ein cyfer, neu a oes angen inni archwilio model amgen?
Cynnwys a dylunio er lles pobl Cymru
I aralleirio myfyrdodau Liberty-Belle Howard: mae DA, ar ffurf sgwrsfotiau ac ati, yn aml yn cael eu gweld fel prosiectau technegol. Ond dyna lle mae’r cam gwag. Mae’r cynnwys sy’n sylfaen iddyn nhw yn hollbwysig.
Yng Nghymru mae gwybodaeth ganddon ni yn Gymraeg a Saesneg. Sut mae modelau DAyn rhyngweithio â’r wybodaeth honno? Yn hynny o beth, mae angen ailystyried natur gwybodaeth ddwyiethog o fewn gwasanaethau sydd wedi’u cefnogi gan DA.
Hoffais sut y lluniodd Liberty-Belle ganfyddiadau mewn 3 maes. Dyma eu haddasu fymryn i’r cyd-destun hwn:
Ar lefel rhyngwyneb:
- gyda sgwrsfot – DA yw’r rhyngwyneb a’r cefndir. Mae angen dylunio prompts, meta-brompts, a negeseuon gwall
- a all rhywbeth fel ChatGPT fod yn rhyngwyneb Cymraeg? Neu tybed a all gyfiethu gwybodaeth mewn amser real, neu a oes angen gwybodaeth ddwyieithog arno o’r dechrau?
Ar lefel gwasanaeth:
- Ni all gwybodaeth y ffynonellau fod yn anghywir nac yn anghyson mewn un iaith fwy na’r llall
- Beth os nad yw DA yn gallu ateb cwestiwn – ble mae’r siwrne yn mynd â’r defnyddiwr? Oes modd mynd ar y siwrne honno yn Gymraeg? Pwy yw’r person go iawn fydd yn ateb galwad ffôn pan fydd pen draw i’r daith ddigidol?
- Mae angen deall cymhlethdod a chymhelliant defnyddwyr ym mhob iaith
- Mae angen deall y risgiau o ddefnyddio DA
- Sut allwn ni sicrhau nad yw DA yn cyflwyno neu’n cynyddu rhagfarn, yn enwedig o blaid ieithoedd mwyafrifol, ar draul y Gymraeg?
Ar lefel sefydliadol:
- mae angen paratoi cynnwys ar gyfer DA sy’n gyflawn, yn gywir ac yn glir
- mae angen paratoi cynnwys ar gyfer pobl a pheiriannau. Sut bydd hwn yn ymddangos ac yn cael ei grynhoi, ei ddyfynnu, ei aralleirio, a’i gyfeirio?
- mae angen prosesau llywodraethu cynnwys clir i sicrhau nad yw gwybodaeth sy’n hen neu amherthnasol yn cael ei gyrchu a’i gyflwyno i bobl. Mae hynny yn anodd mewn un iaith, ond gall fod yn anoddach rheoli cynnwys dwyieithog
- mae dylunio yn fwy na rhyngwynebau a chynnwys, mae’n ymwneud â threfnu pobl, hwyluso sgyrsiau a chyd-ddeall fel bod modd datrys problemau y defnyddwyr a’r sefydliad.
Y dyfodol
Dyma rai syniadau o gamau sydd angen eu rhoi ar waith. Nid mater o ddatblygu technoleg yn unig yw hyn. Ond mater o lywio tua dyfodol sy’n ddymunol i ni fel cymuned ieithyddol gyda chymorth technoleg newydd. Dim ond pobl all wneud hynny. A dim ond y ni all wneud hynny ar ran y Gymraeg.
Beth felly am y gosodiadau yma?
- Mae angen cofrestr o DA sy’n cael ei ddefnyddio yn y sector cyhoeddus. Mae angen ystyried a deall effaith pob defnydd ohonynt ar y Gymraeg yn ogystal â hygyrchedd, yr amgylchedd, a chydraddoldeb.
- Mae angen cynnwys siaradwyr Cymraeg wrth ddatblygu a phrofi defnydd o AI yn y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith negyddol ar bobl Cymru, nac ar eu hawliau i wasanaethau Cymraeg.
- Mae angen ystyried deilliannau i bobl Cymru, nid dim ond allbynnau dwyieithog ac effeithlonrwydd sefydliadol.
- Mae angen annog a chaniatau i’r Cymry Cymraeg sy’n darparu gwasanaethau ail-ddiffinio ein rolau, a bod yn fwy na dim ond hwyluswyr sy’n helpu sefydliadau i gydymffurfio â Safonau ar lefel sylfaenol.
- Mae angen i bobl ddi-Gymraeg sy’n perchnogi gwasanaethau beidio â thrin darpariaeth Gymraeg fel bocs i’w dicio . Mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd a gwerth amhrisiadwy defnyddwyr Cymraeg a staff Cymraeg o femwm sefydliadau fel pobl all gynnig ffenest at safbwyntiau a chyd-destun diwylliannol Cymru.
- Mae angen manteisio ar gyfleoedd enfawr hefyd i ehangu darpariaeth Gymraeg i bobl ag anghenion eraill trwy ddefnyddio trawsgrifwyr, darllenwyr sgrin ac is-deitlau.
- Mae angen ystyried yn barhaus, wrth i dechnoleg newid, beth yw ystyr darparu gwasanaethau Cymraeg a beth yw natur cydymffurfio gyda Safonau yn y cyd-destun hwnnw?
- Mae angen rhagor o fuddsoddiad i ddatblygu’r dechnoleg a’r timau sy’n eu creu a’u llywodraethu. Mae hyn nid yn unig mewn modelau mawrion ond i greu modelau llai, lleol sy’n datrys problemau penodol, yn helpu i leihau cymhlethdod.
- Mae angen cydweithio gyda thimau Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd i gynnwys y Gymraeg mewn prosiectau newydd.
- Mae angen bod yn agored. Gallwn ni ddim sicrhau argaeledd y Gymraeg mewn platfformau AI sydd yn nwylo sefydliadau rhyngwladol enfawr.
Os ydyn ni’n poeni am ddyfodol y Gymraeg, mae’n rhaid ymwneud â’r maes, y cyfleoedd a’r goblygiadau. Os na wnawn, bydd eraill yn penderfynu trosom.