Trydar yn ddwyieithog: sut mae defnyddio Twitter mewn dwy iaith?

Mae nifer fawr o sefydliadau ac unigolion yng Nghymru yn defnyddio Twitter er mwyn trydar yn ddwyieithog. Ond sut mae gwneud hyn yn y modd gorau heb ddrysu eich dilynwyr? A heb greu gwaith ychwanegol diangen i chi’ch hunain?

Hoffwn i gynnig rhyw ganllaw ymarferol iawn.

Mi ddechreuaf i fel hyn – trwy ddweud nad oes, mewn gwirionedd, ateb digamsyniol gywir i hyn. Felly peidiwch â disgwyl un gyfrinach hawdd yn yr erthygl hon.

Mae ambell ddull ar gael, ac mae pob un yn dibynnu ar be sy’n addas i chi, eich amcanion a’r hyn sy’n ymarferol. Ond hefyd mae ambell ddull yr ydw i dod ar eu traws yn ystod y blynyddoedd sy’n ddim llai nag enghreifftiau hollol boncyrs o wneud trydar yn ddwyieithog yn llawer anos nac y mae angen bod.

Cynnwys negeseuon Twitter

O ran cynnwys mae’n werth cofio fod gan unigolion a nifer o gwmnïau preifat rwydd hynt i greu cynnwys digidol fel y mynnant. Gallant:

  • gopïo neu gyfieithu negeseuon yn berffaith rhwng y ddwy iaith
  • amrywio cynnwys rhwng y ddwy iaith o ran tôn a neges i siwtio’r gynulleidfa
  • cael cynnwys gwbwl wahanol yn y ddwy iaith, a’r naill iaith yn gwbl annibynnol o’r llall
  • peidio â thrydar yn ddwyieithog o gwbwl. Does dim rhaid!

Ond rhaid cofio hefyd fod nifer helaeth iawn o sefydliadau cyhoeddus Cymru yn disgyn o dan reoliadau Safonau’r Gymraeg. Mae goblygiadau ac ymarferoldeb y rheiny yn bwnc rhy ddyrys i’w cynnwys yn yr erthygl hon, ond mae’n sicr fod y rheoliadau hyn yn golygu rhyw gymaint o gynnwys sydd yr un fath yn y ddwy iaith er mwyn rhoi gwasanaeth cyfartal i bawb.

Sawl cyfrif Twitter ddylwn i gael?

Mae rhai yn penderfynu sefydlu un cyfrif Twitter, ac eraill yn dewis agor sawl cyfrif (fel arfer, un i bob iaith). Mae manteision ac anfanteision i’r ddau ddull. Beth am i ni edrych arnynt isod…

1. Trydar yn ddwyieithog o un cyfrif

Mae hwn yn ddull ymarferol iawn gan ei fod yn golygu agor, cynnal a monitro un cyfrif Twitter yn unig. Digon hawdd yw creu a chyhoeddi neges mewn un iaith a’i yrru, ac yna creu neges yr un fath, neu amrywiad, yn yr iaith arall.

I’r defnyddwyr, fodd bynnag, fe all fod yn dda neu’n ddrwg. Gall y defnyddiwr uniaith gael ei flino gan negeseuon o’r iaith arall nad yw’n ei ddeall. Gall y defnyddwyr dwyieithog flino ar weld negeseuon ailadroddus yn y ddwy iaith – yn enwedig os yw cynnwys y negeseuon yn syrffedus yr un fath yn y ddwy iaith.

Fodd bynnag, fe all rhai defnyddwyr fod yn awyddus iawn i weld popeth – ym mha bynnag iaith – o un cyfrif.

2. Dau gyfrif Twitter – un i bob iaith

Dyma ffordd sy’n cael ei fabwysiadu’n aml gan sefydliadau mwy o faint, sydd â strategaeth bendant i ddefnyddio Twitter yn y ddwy iaith.

Manteision hyn yw creu llif gwaith rhwydd rhwng y ddwy iaith, yn enwedig os oes gwahanol aelodau o staff yn rheoli’r cyfrifon. Yr anfantais yw’r posibilrwydd y bydd angen buddsoddi mewn system i reoli nifer o gyfrifon, rhaglennu negeseuon o flaen llaw a monitro ymatebion dwy gynulleidfa. Mae nifer o systemau ar-lein sy’n hawdd i’w defnyddio ac yn addas i’r pwrpasau hyn. Y rhai symlaf nad ydynt yn costio llawer (neu sydd â fersiwn rhad ac am ddim) yw Hootsuite, Buffer a Tweetdeck, yn fy marn i.

3. Un cyfrif Twitter – a phob neges yn ddwyieithog!

Yr hyn sydd gen i dan sylw ydi eich bod yn trydar gan roi cynnwys y ddwy iaith o fewn un neges.

Ystyriwch! Dim ond 140 nod sydd mewn neges ar Twitter. Os ydych chi am gynnwys testun Cymraeg a Saesneg yn yr un neges, dyna chi wedi cyfyngu’ch hun i 70 nod yn barod!

Ond be, wedyn, os ydych am roi dolen yn y neges? Mae bob dolen yn cyfri tuag at 23 nod arall. Fe ddwedwn ni felly bod y cyfanswm wedi dod i lawr i 58-59 nod fesul iaith.

A be, drachefn, os ydych chi am gynnwys llun?* Mae pob marchnatwr Twitter gwerth ei halen yn cynnwys llun i dynnu sylw at eu neges. Dynna 23 nod arall wedi mynd! Sydd felly yn gadael 47 nod ar gyfer neges.

Un o amcanion y wefan hon yw dangos sut mae bod yn gryno ac yn effeithiol. Ond mae na ben draw ar drio bod yn rhy gryno a chynnil hefyd!

Ystyriaeth arall yw bod darllen dwy iaith wrth ymyl ei gilydd fel hyn yn anoddach i ddefnyddwyr, ac yn brofiad llai derbyniol a mwy darniog. Fyddech chi ddim yn llunio pamffledi, gwefannau neu bosteri gyda chyfyngiadau o’r fath arnoch chi eich hunain.

Y nod ar ddiwedd y dydd yw gwneud profiad eich defnyddwyr yn un gwell –  a lle bo’n bosib, gwneud eich bywyd eich hun yn haws yr un pryd.

*Yn fuan iawn – ni fydd lluniau yn cyfri at gyfanswm nodau Twitter. Hwrê!

Tips aildrydar

Sut felly mae ail drydar yn effeithiol mewn dwy iaith, os nad ydy’r cyfri yr ydych chi am ei ail drydar wedi creu negeseuon yn y ddwy iaith? Dyma lle mae dyfynnu yn ddefnyddiol. Wrth glicio’r botwm ail drydar ar Twitter, fe gewch opsiwn i yrru neges yn syth, neu i ychwanegu sylw (“add a comment” yn iaith Twitter). Gallwch chi wedyn ychwanegu sylw yn yr iaith arall i gyfeirio pobl at y neges wreiddiol.

Amseru’ch trydar yn ddwyieithog

A ddylech chi yrru mewn dwy iaith yr un amser? Mae natur rhai cyhoeddiadau (e.e. newyddion yn torri) yn golygu ei bod yn gwneud synnwyr i wneud hynny. Os ydych chi wedi rhannu’ch cynulleidfa yn ôl iaith (fel yn opsiwn 2), yna mae modd i chi edrych ar ystadegau eich cyfrifon a chreu negeseuon i’w cyhoeddi ar yr adegau sydd fwyaf defnyddiol a pherthnasol i’ch cynulleidfaoedd unigol.

Os ymateb i neges defnyddiwr arall, neu gymryd rhan mewn sgwrs sy’n digwydd eisoes, ydych chi, yna ymateb yn iaith naturiol y sgwrs honno sy’n synhwyrol.

Mae’n bwysig gwybod beth yn union fydd goblygiadau safonau’r Gymraeg ar yr ystyriaethau hyn. Ond dyna fater i erthygl arall, pan fydd pethau’n gliriach.

Cyn clwydo – fy marn i

Mae Opsiwn 2 yn gliriach os ydych am drin cynulleidfa’r ddwy iaith ar wahân – a chael dealltwriaeth ddyfnach o’r ddwy gynulleidfa. Os ydych yn tybio mai’r un gynulleidfa ydyn nhw – mae cyfiawnhad dros Opsiwn 1 hefyd. Byddwn i’n annog peidio defnyddio opsiwn 3, am y rhesymau amlwg a nodwyd uchod!

Beth amdanoch chi? Beth yw’ch profiad chi? A ydych wedi defnyddio opsiwn gwahanol i’r hyn sydd gen i yn yr erthygl? Rhowch wybod i mi yn y sylwadau isod.

 

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *