Yr wythnos hon dwi’n holi cwestiwn penagored iawn wrth ystyried pa elfennau sy’n gwneud darn da o gynnwys digidol. Cwestiwn rhyfygus efallai, achos gall darn o gynnwys digidol gymryd sawl ffurf o dan haul. Gall fod yn
- gopi ar gyfer gwefan neu ebost
- trydariad
- fideo
- llun neu meme
- cerdd
- cân
- podlediad
- *ychwanegwch unrhyw gyfrwng arall yma*
Does dim dwywaith fod crefft wahanol i bob un o’r cyfryngau uchod. Sut mae dod at gonsensws o be sy’n creu darn da o gynnwys digidol felly? Wel yn y bôn, cyn eich bod chi yn creu unrhyw ddarn o gynnwys mewn unrhyw gyfrwng, fe dâl i chi ofyn un neu ddau o gwestiynau sylfaenol ynglŷn â’ch cynnwys.
Cyn creu darn da o gynnwys digidol
Rydw i wastad yn dweud bod creu cynnwys, unrhyw gynnwys, yn well na pheidio â chreu dim o gwbwl. Gydag arfer mae meistrolaeth yn dod. Ond mae adeg lle mae angen i chi ofyn cwestiynau sylfaenol i chi eich hun, cyn dechrau creu darn o gynnwys. Eisteddwch yn ôl a meddwl:
- Beth yw cenhadaeth y darn hwn? I ba bwrpas mae’n cael ei greu, ac a ydi o’n ateb galw?
- Ydi’r darn hwn yn ddiddorol neu’n unigryw; a ydi o’n rhywbeth na all neb ond y fi ei gynnig?
Os llwyddwch i ystyried y cwestiynau hyn cyn brysio i greu, fe fydd y cynnwys yn siŵr o fod ar ei ennill. Bydd hefyd yn debygol o fod yn cyflawni ei nod yn well. Beth am i ni graffu ymhellach ar y cwestiynau hyn.
1. Beth yw pwrpas y darn hwn o gynnwys?
Ystyriwch beth yn wir ydi cenhadaeth y darn hwn o gynnwys. Be dwi’n ei feddwl gan hynny ydi; i bwy mae’r darn hwn yn cael ei greu, ac a ydi o’n mynd i fod yn ddefnyddiol i rhywun?
Gallwch chi ysgrifennau y darn fwyaf ysgubol o gopi, neu greu’r fideo fwyaf trawiadol bosib, ond os nad oes neb sydd yn gweld ei angen, yna ni fydd yn plesio cynulleidfa. Bydd yn fwy o seren wlyb na seren wib. Digwyddodd. Darfu. Ond heb erioed brofi’r wefr o fod ar wib ychwaith. A byddwch chi wedi treulio oriau maith yn creu darn o gynnwys nad oes neb ei eisiau.
Ffordd arall o edrych ar y cwestiwn hwn ydi; a yw’n ateb galw? Os ydych chi’n gweithio i gwmni neu sefydliad, dylai’r ateb i’r cwestiwn hwn fod ar flaenau eich tafodau. Ac os nad yw’ch busnes yn gwybod pa gwestiynau mae’ch cwsmeriaid neu’ch cynulleidfa yn eu gofyn, mae gennych chi broblemau dyfnach na all unrhyw ddarn o gynnwys ei ddatrys!
Gweithiwch gyda ffocws. Peidiwch â dyfalu’n ddall neu obeithio am lwyddiant. Rhowch y cyfle gorau i’ch cynnwys lwyddo.
2. Ydi’ch cynnwys yn ddiddorol ac yn unigryw i chi?
Mae môr o gynnwys ar-lein y dyddiau yma, a llawer o iawn o gynnwys sydd wedi ei greu trwy gast neu fowld – yr un fath a miloedd o rai eraill.
Dyma’r gwir: bydd bob darn da o gynnwys digidol wedi ei greu yn eich llais chi eich hun neu lais unigryw eich cwmni neu’ch sefydliad. Mae pob unigolyn yn unigryw ac mae gan bob unigolyn lais unigryw. Trwy ymarfer y grefft o greu cynnwys mae’r llais hwnnw yn cael ei feithrin a’i fireinio. Felly peidiwch â cheisio swnio fel neb arall, rhag boddi yn y môr o gynnwys.
Hefyd ysytriwch, beth yw’ch arbenigedd chi? Neu’r hyn sy’n eich gwneud yn ddiddorol? Beth yw’r safbwynt sydd gennych chi, a neb arall, sy’n mynd i daflu goleuni gwahanol ar bwnc trafod? Mae rhain yn swnio fel cwestiynau dyrys ac anodd mynd i’r afael â nhw. Ond mewn gwirionedd, maen nhw ynom ni bob un achos rydyn ni i gyd, yn ein ffordd ein hunain, yn unigryw.
Dyna sy’n creu cynnwys diddorol a chynnwys na all neb ei gael yn nunlle arall.
Rydych yn barod i greu darn da o gynnwys digidol
Os ydych chi wedi holi’r cwestiynau uchod cyn dechrau, yna rydych chi wedi gwneud gwaith hanfodol i greu cynnwys digidol da.
Crëwch gynnwys unigryw, sydd at bwrpas. Osgowch gynnwys cast neu fowld. Ac osgowch sêr gwlyb.
Wrth gwrs – mae crefft wahanol i bob un cyfrwng o gynnwys y byddwch yn ei greu. Ond bydd gennych bellach, rwy’n gobeithio, gwell syniad o ba ffurf y dylai’ch cynnwys ei gymryd gan y byddwch yn gwybod pwy fydd yn elwa o’r darn.
Dyna drafod egwyddorion creu darn da o gynnwys digidol. Gobeithio fod hyn yn eich rhoi ar ben ffordd i greu’r cynnwys gorau posib.
Ydych chi’n creu cynnwys? Ydi hwn yn ddarn o gynnwys da gen i?! Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, mae croeso i chi ychwanegu sylw isod i ni gael trafod!