Diolch yn fawr i Llenyddiaeth Cymru am recordio a chyhoeddi’r fideo hwn ar YouTube. Ewch draw at y casgliad o fideos sydd ganddynt o Eisteddfod Sir Gâr 2014, maen nhw yn werth eu cael yn wir.
Roedd hi’n stomp dda iawn gydag awyrgylch agos-atoch, a thrydan rhwng y gynulleidfa a’r beirdd (o safbwynt y bardd hwn beth bynnag!). Fy uchafbwynt personol oedd cân wych Gwennan Evans. Eurig Salisbury oedd y buddugwr haeddiannol, a gallwch glywed ei gerddi yntau yn y casgliad.
Mae’r gerdd hon yn ganlyniad i fod yn byw ar stryd yng Nglan yr Afon, Caerdydd sy’n dioddef yn reit ddrwg o dan warchae y tipio anghyfreithlon (ffléi-tipio, os mynnwch)