Cerddi

Dyma’r lle y mae cerddi Osian Rhys Jones ar gael i chi eu darllen, eu clywed neu’u gwylio.

Byddaf yn ysgrifennu cerddi caeth a rhydd fel ei gilydd. Hoffwn feddwl fy mod yn gallu troi fy llaw at nifer helaeth o fesurau. Byddaf yn ysgrifennu llawer iawn yn y mesurau rhydd, ond y gynghanedd oedd y cariad cyntaf. Byddaf yn dal i ganu’n gaeth o bryd i’w gilydd. Heb fod yn ddigon aml, efallai…

Pe bawn i’n ysgrifennu yn yr un mesurau, yn yr un cywair, am yr un pynciau o hyd, yna gorchwyl go ddiflas fyddai barddoni i mi, ac i chi fel cynulleidfa. Hoffwn feddwl felly fy mod yn cadw fy awen yn un amrywiol, er lles pawb.

Hawlfraint

Y fi piau hawlfraint cynnwys y blog, ond mae nhw yma yn hytrach na’u bod yn pydru mewn drôr neu ddisg galed. Felly rwy’n eich hannog i’w rhannu ar y we a’u trafod fel y mynnwch, dim ond i chi roi linc yn ôl i’r wefan hon fel ffynhonnell. Os hoffech ddefnyddio’ cynnwys y blog at berwyl arall, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Felly, gobeithio y byddwch yn mwynhau yr hyn o gerddi sydd ar y blog. Gadewch sylw neu cysylltwch â mi os hoffech roi eich barn neu awgrymu be arall y gallwn fod yn ei gyhoeddi.

Cerdd Dydd Calan: Caribŵ

Cerdd Dydd Calan: Caribŵ

Nid yw llunio cerdd Dydd Calan yn draddodiad o unrhyw fath. Nid gen i na nab arall hyd y gwn i. Ond yn ôl y drefn dyma gyfnod lle mae pobl yn tueddu i gloriannu’r flwyddyn a fu, gan gobeithio am gystal, os nad gwell, yn y flwyddyn i ddod. A tydw i ddim gwahanol yn hyn

Englyn Nadolig 2016 gan Osian Rhys Jones

Englyn Nadolig: ffarwelio â 2016

Dyma englyn Nadolig. Tydw i byth yn dda iawn yn gyrru cardiau Nadolig felly dyma ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i bob un! Englyn Nadolig 2016 Gwirionedd pob gair anwir a dduodd Y ddaear. Ond genir Golau aur mewn awyr glir: Un seren y nos eirwir.

David Davies yn gweld dannedd mewnfudwr

Cyngor i David Davies AS/MP

Bu’n hysbys i nifer o bobol ers tro fod rhywbeth anarferol am y gwleidydd Torïaidd, David Davies. Ei ddaliadau yn un peth. Mae wedi pleidleisio o blaid  sawl peth amheus iawn, a phleidleisio yn erbyn sawl peth goleuedig arall (gadawaf i chi wneud eich hymchwil eich hun). Ond daeth yn amlycach byth yr wythnos hon for y

Cerdd 'Mewn Dau Gae Pêl-droed' gan Osian Rhys Jones

Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed

Mae ‘Gweledigaeth Mewn Dau Gae Pêl-droed’ yn barodi ar gerdd enwog ac yn gerdd bêl-droed. Gan ei bod hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, mae eraill yn ymgymryd â heriau gwirion fer Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru (faswn i byth yn gwneud y ffasiwn beth…). Ond i mi, gan ei bod hi’n ddiwrnod cenedlaethol barddoniaeth a bod Cymru