Llyfr Aneirin

I Aneirin, Laura a Sisial

Mae fy llyfryn i’n fwy na dwrn o dudalennau
neu bluen gynnil yn cosi’r cloriau;
mwy na diadell o eiriau yng nghorlan y gân
neu’r lludw sydd gen i’n dystiolaeth o’r tân.

Mae’n un map mawr maith sy’n blygion i gyd
a’r papur yn breuo o’i gario cyhyd,
yn llyfr lle mae’r geiriau fel llwybrau mewn llên
a’r rheiny yn troelli â phob gwg a phob gwên,
lle cân Steve Eaves a Jimmy Cliff am yr heol arw a hir,
lle mae’r gorwel ynof mor rymus yn tywys dyhead trwy’r tir,
lle caf yn ymestyn rhwng nos a dydd
benrhynnau newydd yn Geltia o ffydd:

wrth beintio’r corneli tywyll â lliw
rwy’n sisial ymadroddion yn greadigaethau byw
ac felly’n fy llyfryn, rwy’n mynnu, rho nod
ar dudalen sy’n hawlio dy fod dithau yn bod.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *