Cerddi byw

Cerddi sydd wedi eu perfformio yn fyw mewn stompiau, nosweithiau barddol, talyrnau ac ymrysonau.

Toiledau’r Tywysogion

Mae’n anodd dod o hyd i gofebau go iawn i Dywysogion brodorol Cymru heddiw. Mae cofeb yng Nghilmeri i Lywelyn ap Gruffydd wrth gwrs, sy’n ganolbwynt i ralîau cyson, ac yn Fecca i rai gwladgarwyr mawr. Os gyrrwch chi i’r gogledd ar hyd yr A470 mi ddowch at y gyffordd yn Llanfair ym Muallt, lle […]

Y Felan Fawr

Dwi wastad wedi bod yn hoff o gerddoriaeth blŵs. A thua’r adeg yma o’r flwyddyn, pan mae’n tywyllu, mae’r blŵs yn ymgyrffori ei hun bron yn y dyddiau byrion, y glaw a’r gwynt Cymreig, a rheiny’n lapio amdanom nes bod y felan yn rhan o fywyd bob dydd. Heb sôn am ei bod hi’n tueddu