gan Osian Rhys Jones
Maddeuant mam ddaear
Rwyt ti yn llefain y glaw
a’th lygaid wedi chwyddo
â chefnforoedd dy ddadrith.
Nid fy mod yn dy weld.
Tybiaf nad ydw i ond weithiau’n synhwyro
dy sgrech ar y gwynt, dy siom mor drwchus â’r niwl.
Ac mae’n rhyfedd, tydi, Mam,
mai ti yw ein cyfrifoldeb ni –
y fi, a’m holl frodyr a’m chwiorydd – nid fel arall rownd?
Felly, tro nesaf y bydd dy feddyliau’n gorwynt,
neu dy dymer yn derfysglyd wyllt,
tafla belydryn o faddeuant i’th blant.
Mi ddweda’ i wrth y lleill,
a dyrchafwn ein golygon, o’th ddaear faeth,
i weld dy gleisiau’n glir a minlliw hen gusan ar enfys newydd.
Hunan Wasanaeth
Mae hi’n dasg mor undonog,
mor ddi-liw ar bnawn dydd Iau;
yn un all bawb yn rhwydd ei gwneud
hefo’u llygaid nhw ar gau.
Mae’n ail natur inni bellach
torri rhestr a hel ein bagiau,
crwydro’n freuddwydiol ar hyd bob eil,
anghofio bod ffin rhwng angen ac eisiau.
Llenwi’r fasged, gwireddu’r freuddwyd,
y bywyd braf mewn seloffên;
mae’r bara, y selsig, y losin a’r bŵs
i gyd wedi’u pecynnu a’u gwerthu â gwên.
Siop yw hon sy’n bob dim i bawb,
a lle gall pawb gael bob dim.
Mae’n gysur gwybod bod eraill fel ni,
yn chwantu gwneud eu siopa’n chwim;
A chwimach eto, yn ôl y drefn
yw cael talu yn ddiymyrraeth –
wfft i’r ciw, es ar fy mhen
tua’r peiriant hunanwasanaeth:
“Welcome, please scan your first item” meddai
(gan bwysleisio “first” rhag ofn imi ddechrau â’r ail),
cyn sylwi ar yr opsiwn “Cymraeg” ar waelod
y sgrin, er syndod, bu hyn yn sail
i Gymro swil lawenhau. Ces bwyso’r botwm
a bod y rebel yn y selerydd saff,
es am unwaith a dal gerfydd fy ewinedd
yn y mymryn hwn o raff:
“CROESO, SGANIWCH EICH HEITEM GYNTAF”
Troesai rhywun y foliwm i eithafion un ar ddeg,
rown i’n siŵr fod pawb yn syllu arna-i,
cyrliais fodiau fy nhraed, a brathais congl fy ngheg,
pam fod dewis Cymraeg mor chwithig,
mor beryg i bob hunan barch?
Pam weithiau dymuno i’r llawr ein llyncu,
neu gael gadael y lle reit handi mewn arch?
Mi es ati’n ddyfal iawn i sganio,
sganio’n sydyn, sganio am y gorau –
fel cath i gythraul yn llenwi’r bag…
“EITEM ANNISGWYL YN ARDAL Y BAGIAU”
Golau coch yn fflachio, rhaid aros am gymorth.
ac o’r ciw tu ôl fe glywn i regfeydd,
ro’n i ar y llain galed ar draffordd y tils,
a fy newis iaith yn achosi tagfeydd:
“Alright love? Pressed ‘Welsh’ by mistake?
Don’t worry I’ll change it back for you –
seems to happen all the time these days…”
“Well no, I actually wanted…” ac ar fy llw
fe awdurdododd Sandra i’r peiriant
ddychwelyd yn ôl i’w stâd naturiol,
cyn chwalu tŵr Babel yn fil o rybuddion
nad oes dibenion bod yn wahanol.
Ail bwysais y botwm Cymraeg yn ‘styfnig,
y botwm niwclear coch,
y booby-trap diwylliannol cas
sy’n gyrru eich henw i’r moch:
Sefais a dychmygais uwchben y sganiwr,
yr FBI, CIA, MI6,
GCHQ, NSA, bob un o flaen sgrin
yn nodi pwy ydw i, yn cael eu ffics:
“potential terrorist”, “non-conformer”,
yn nodi fy lleoliad ar un pnawn dydd Iau,
pan ddeffrwyd fi o ‘mherlewyg gan gyfarthiad
“A YDYCH CHI’N DYMUNO PARHAU?”
Weithiau mae ambell gwestiwn fel cyllell cigydd
yn tynnu gwaed o esgyrn a gewynnau,
yn tollti ymysgaroedd ar hyd y llawr,
yn troi ei llafn yn fy mherfedd innau:
Es yn fy mlaen; a sŵn y sganiwr
yn cofnodi curiad pýls afreolaidd,
a finnau’n gaeth i’r drip diwylliannol
trwy linyn bogail sy’n fy nghadw’n wylaidd.
Ro’n i’n siŵr wrth lenwi’r cwdyn olaf
fod gen i gomplecs yn datblygu:
“RHOWCH EICH HARIAN I FEWN –
NEU DEWISIWCH FFORDD O DALU”:
y math o gomplecs sy’n gallu llethu cenedl
yn boenus o ymwybodol o drueni’i chyflwr:
“CYMERWCH EICH NEWID;
RHODDIR ARIAN PAPUR O DAN Y SGANIWR.”
Wrth adael trwy’r drysau awtomatig
teimlad chwithig oedd mynd efo’r lli:
roedd y bagiau llawnion a gariwn yn drwm,
ond ddim mor drwm â ‘nghalon i.
Achos weithiau, hyd yn oed
wrth wneud y tasgau bach bob dydd
fe dâl inni agor ein llygaid,
a chrwydro pob eil fel ‘tawn ni yn rhydd,
peidio â cholli’n ffordd rhwng y cigoedd a’r gwirodydd,
bod o bryd i’w gilydd yn uchel ein cloch:
a throi’r foliwm yn uwch eto fyth
o Gaerdydd, Prestatyn i Abersoch:
a dyna ydi’r hunan wasanaeth
mwyaf a wnawn rhwng y brain a’r cŵn:
felly deffrwch eich harchfarchnadoedd lleol
hefo llond eich hiaith chi o sŵn.
Rio Dulce
A gawn ni fynd ar un o’r bysys
A ffeirio’r mynydd am yr afon felys?
Gawn ni fynd un waith gyda’r bobol ddiarth
sy’n tynnu llun pob tŷ a buarth?
A rhoi ein sachau trymion ar y to
i weld y coed palmwydd y tu hwnt i’n bro?
Gawn ni gymryd ein troeon fesul dau
i roi’n pennau trwy’r ffenest na fedrwn ei chau?
Plîs, Mam, gawn ni ganu’r hen gân
am y lôn fawr a’i theithwyr mân?
Plîs, Dad, pam na fedrwch chi ddallt?
‘Da ni ddim ond eisiau’r gwynt yn ein gwallt.
Plîs gawn ni oll, cyn ein bod ni’n rhy hen
ddisgyn i gysgu’n sownd gyda gwên
A breuddwydio bod y mynydd yn fodlon hapus
Wrth gofio amdanom wrth yr afon felys.
Tachwedd 2014
Welsh Club
Ym meddwdod Womanby, mae “Welsh Club” mor fachog
wrth faglu yn heglog mewn dipyn o strach.
Ond beth sydd mewn enw? Ydi Ifor Bach
yma’n dawnsio’n ein gwaed? Tra bo’r cof yn niwlog
a’r gig yn hwyliog, pa iws sydd ‘na mewn taeru,
fod Ifor yn fyw, tra bod ‘na ddisgo, a chân i’w chanu?
Ac wedyn, dwi’n teimlo, pan fentraf fi sobri
bod yn rhaid dweud fy sori am lacio fy nhafod
wrth y rhai sy’n meddwl fod yr enw’n datgelu gormod.
Ydyn nhw ofn i’n caneuon a’n cerddi ddringo waliau’r castell?
Ydyn nhw ofn ein cymell i gipio’u straeon o dan eu trwynau
a’u dal yn wystl, nes ildio’u celwyddau?
Ydyn nhw’n ofni ein gweld ar y gwastatiroedd,
I lawr o’n mynyddoedd, yn masnachu, yn bla,
Yn herio chwip y Norman â daioni Hywel Dda?
Oes ganddyn nhw ffîar fod Cofio Tryweryn
Am wneud gelyn ohonyn nhw?
Achos nid nhw di’r baddies (na, mae hynny’n tabŵ).
Ydyn nhw’n ofni y byddwn yn gweld heibio’r Saesneg –
yn darllen Ffrangeg a theithio tua’r gorwel
â’n rhamantau ein hunain, yn dianc o’n cornel?
Ydyn nhw’n ofni y byddwn ni’n bloeddio ‘digon’
ac yn herio’r goron, fel Llywelyn a Lleucu?
A ninnau’n amau na feiddiem wneud hynny…
Ond y ni sydd tu fewn i’r muriau heno,
a’r cerrig yn atseinio’u Cymraeg yn rhagor
ar lawnt y castell, a’r porth i bawb ar agor.
Chwedl
Gyda’r gair yr oedd dechreuad
ein gwareiddiad yn wawr rydd;
acenion llawn gwreichioni
yn dweud stori golau dydd.
Ond â’r golau nawr o’r golwg
yn y mŵg o eiriau mân,
ni chlywn un smic o’r marwor,
ni fu neb yn tendio’r tân.
Y mae iaith ei hun yn darfod
ac mae’i chysgod heno’n hir.
Mewn gwawl a gwyll mae’r geiriau
ac mae gau yr un â’r gwir.