Chwilfardd 2012

Chwilfardd 2012

Dyddiad: 26/08/2012

Cefais y fraint o gael fy ngwobrwyo yn Chwilfardd yn Chwilgig 2012. Penwythnos o gigs a digwyddiadau diwylliannol ym mhentref Chwilog yn Eifionydd yn 2012 oedd Chwilgig. Mei Mac oedd y beirniad, ac roedd y gerdd yn farwnad i Edward Elias, cyn brifathro Ysgol Chwilog. Cefais slabyn da o lechen fel gwobr.