Cerdd Dydd Calan: Caribŵ

Cerdd Dydd Calan: Caribŵ

Nid yw llunio cerdd Dydd Calan yn draddodiad o unrhyw fath. Nid gen i na nab arall hyd y gwn i.

Ond yn ôl y drefn dyma gyfnod lle mae pobl yn tueddu i gloriannu’r flwyddyn a fu, gan gobeithio am gystal, os nad gwell, yn y flwyddyn i ddod. A tydw i ddim gwahanol yn hyn o beth.

Ffarwél i 2016

Wrth i selebriti arall ein gadael yn 2016, neu wrth i ragor o newyddion drwg ddod am ryfela neu gasineb yn y byd, roedd rhagor o alw ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn ‘hen bryd i 2016 ddod i ben’, neu ‘ta ta 2016′.

Wn i ddim a yw pobl yn tybio y bydd popeth yn newydd ac yn dda unwaith y byddwn yn cyrraedd 2017. Efallai wir, ond tydw i ddim wedi fy argyhoeddi. Nid y tymhorau neu ddyddiadau mympwyol yw’r grym sy’n llywodraethu dros y da a’ drwg, y marw a’r byw. Bydd rhain yn bod yn barhaus, a ninnau’n frwd i oroesi drwy’r cwbwl.

Bywyd y Caribŵ

Dros gyfnod yr Ŵyl fe ddois, heb chwilio, ar draws sawl rhaglen ddogfen neu stori am y Caribŵ yng ngogledd tiroedd Canada. Yr hyn sy’n taro rhywun yw pa mor bell mae’r rhain yn mudo yn eu cylchoedd tymohorol. Teithia rhai dros dir diffaith am dros dair mil milltir y flwyddyn. Maent yn gwneud hynny yn ddiwahân trwy diroedd gwyllt y blaidd. Prin iawn yw’r cyfnod lle mae’r Caribŵ, mewn gwirionedd, yn llonydd mewn un lle. Mae’r perygl yn barhaus.

Bu unwaith y bobl a oedd yn trigo yn y tiroedd hyn, ymhell i’r gogledd, yn byw bywyd nomadig er mwyn goroesi ar drywydd y Caribŵ. Tybir i’r bobl Gwich’in fyw fel hyn am dros 20,000 o flynyddoedd er mwyn cael cynhaliaeth y Caribŵ ar ffurf bwyd, arfau a dillad.

Roedd hyn oll ar fy meddwl wrth lunio cerdd Dydd Calan eleni.

The caribou feeds the wolf, but it is the wolf who keeps the caribou strong.’
Inwít ardal Kivalliq

Cerdd Dydd Calan: Caribŵ

O na bai pob blwyddyn yn cadw’i sen
a gwenwyn ei geiriau. Ar dafod lân
caem sôn am ddrygioni yn dod i ben
yn benodau taclus, a’r gwyrthiau mân
na ryfeddodd eto lygaid ein plant.

‘Y caribŵ sy’n bwydo’r blaidd,’ yn ôl
hen ddywediad, ‘ond y bleiddiaid a’u chwant
a geidw’r caribŵ’n gryf’.

Ac o ddôl i rewdir ac yn ôl, mae’r cylch yn troi
i ninnau. Rhaid byw tua’r gorwel gwell
o hyd. Â’r udo’n mileinio, nid ffoi
wnawn o’r llwybr ond dyfalbarhau. O bell
clywn ffroenau llynedd yn erlid ein hynt,
a chwa yfory o’n blaen ar y gwynt.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *