Dyma englyn (nid “englyn bach”, pam bod rhai beirdd yn mynnu dweud “englyn bach”?) a ddaeth wrth deithio ar hyd traffordd brysur yn ardal Eisteddfod Wrecsam eleni.
Gyrrant, gyrrant i’n gwared, i waliau’r
ymylon, ond bydded
o’i hawlio’n y lôn a’i led
le i’n gwyl ar lain galed.