Yn ddiweddar bûm i a’r cerddor adnabyddus Endaf Emlyn yn cydweithio i gyfansoddi cân am dref Pwllheli ar gyfer rhaglen Yma wyf Finnau i Fod ar BBC Radio Cymru. Cyfansoddais innau’r geiriau a chyfansoddod Endaf gân wefreiddiol i roi traed iddynt. Roedd hi’n fraint enfawr cael cydweithio hefo cerddor o safon a phrofiad Endaf.
Mae’r ddau ohonom bellach wrth gwrs yn byw yng Nghaerdydd; tasg anodd felly mynd ati i geisio cyfansoddi cân am Bwllheli. Ond mae geiriau’r gân yng ngenau alltud sydd â meddwl mawr o’r dref o hyd. Enw’r gân honno ydi “Ym mhen draw’r lein”.
Fel rhan o’r rhaglen buom hefyd yn siarad gyda rhai o drigolion lleol Pwllheli, sef yr hanesydd John Dilwyn Williams, perchennog tafarn Penlan Fawr Iwan Edgar, yr artist Catrin Williams, a’r athro Huw Meilir Williams.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu heddiw (20 Awst 2012) ar BBC Radio Cymru am 1.15pm ac fe gaiff ei hailddarlledu am 6.30pm nos Sadwrn 25 Awst 2012. Bydd ar yr iPlayer hefyd decini.
Gyda lwc , mi fyddaf yn cyhoeddi’r gân ar y wefan hon ar ôl iddi gael ei darlledu. Gallwch wrando arni byth a hefyd wedyn, heb iddi ddiflannu i ddyfnderoedd archifau’r BBC.
Mwynhewch a rhowch wybod be ydach chi’n feddwl o’r rhaglen a’r gân!
Leave a Reply