Hysbyseb fach am ddigwyddiad: Nos Sul, 1 Mehefin 7.30pm Urban Tap House, Caerdydd. Lawnsiad cyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Storm ar Wyneb yr Haul. Manylion ar Facebook Mae Llŷr nid yn unig yn chwip o fardd, ond yn gorwynt o gerddor, fel y bydd unrhyw un a welodd sioe Cnoi Draenogod yn tystio. Bydd criw da yn dod […]
Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd 2012
Mi fydda i, a sawl cynganeddwr a chyw-gynganeddwyr eraill yn mynd tua chyfeiriad Llanystumdwy y penwythnos hwn ar gyfer yr Ŵyl Gynganeddu flynyddol. Mae yno lawer iawn o sesiynau diddorol eleni, ac nid dim ond rhai ar gyfer y gîcs cynganeddol! Mi rydw i’n bersonol yn edrych ymlaen yn fawr i glywed darlith yr Ŵyl, […]
Taith Cnoi Draenogod
Bellach mae holl ddyddiadau taith Cnoi Draenogod wedi cael eu cyhoeddi. Yn y sioe hon bydd Rhys Iorwerth, Osian Rhys Jones, Anni Llŷn a Llŷr Gwyn Lewis yn taro golwg farddol a cherddorol ar y Sipsiwn Romani. Er mai ‘gajos’ ydan ni i gyd, mae’n siwr fod yna rywfaint o waed Romani ynom ni hefyd, […]
Cnoi Draenogod Estynedig ar S4C heno!
Fel rhan o gyfres Y Sispsiwn, dros gyfnod o wythnos o ddathliadau ym Mehefin 2012 (mis dathlu bywyd y Sipsiwn Romani yng Nghymru) fe recordiwyd noson o farddoniaeth a cherddoriaeth yng Nghastell Newydd Emlyn. Y perfformwyr oedd Rhys Iorwerth, Anni Llŷn, Llŷr Gwyn Lewis a minnau. Heno, 14 Awst 2012, bydd S4C yn dangos rhaglen […]
Cnoi Draenogod – Maes C
Un o’r pethau dwi’n edrych ymlaen fwyaf ato yn yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg eleni ydi cael perfformio Sioe Cnoi Draenogod am yr ail waith, a hynny ar y nos Fercher, 8 Awst o 9pm ymlaen yn Theatr y Maes (Maes C) Fe’i perfformiwyd hi gyntaf yng Nghastell Newydd Emlyn ar 26 Mehefin fel rhan […]
Osian y prydydd bishi
Ymddiheuriadau am fod yn dawedog ar y wefan ma dros yr wythnosau diwethaf. Mae hi wedi bod yn bythefnos prysur tu hwnt. Dwi wedi bod yn perfformio ym Mhumsaint, Caerdydd, Dinbych a Chastell Newydd Emlyn ymhlith pethau eraill. Galla’ i ddim sôn am ganlyniad gornest Talwrn y Beirdd ym Mhumsaint. Bydd rhaid i chi wrando! […]