• Skip to content
  • Skip to footer

Osian Rhys Jones

Bardd a Chynhyrchydd Digidol

  • Y Bardd
    • Cerddi
    • Barn
    • Comisiynu Cerdd
    • Newyddion
    • Bragdy’r Beirdd
  • Tanysgrifio
  • Cysylltu
  • English
Rydych yma: Hafan / Newyddion / Siwper Cêt ac Ambell Fêt

Siwper Cêt ac Ambell Fêt

22/07/2013 Gan Osian Gadael sylw

POSTER SIWPER CÊT

Daw hwn o wefan bragdyrbeirdd.com

Os buoch yn ddigon ffodus i fachu sedd ar nos Fawrth Eisteddfod Bro Morgannwg, yn yr Hen Hydd Gwyn yn Llanilltud Fawr, y llynedd ar gyfer noson Iolo! fe gofiwch i ni gael noson ragorol o gerddoriaeth a barddoniaeth gan lein-yp gorau’r Eisteddfod!

I ddilyn llwyddiant noson Iolo! bydd noson arall yn cael ei chynnal eleni i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych. Kate Roberts, fel y gwelwch o’r poster yw’r arch-arwres, ond bydd y beirdd a’r cerddorion yn talu gwrogaeth i fawrion llenyddol y sir, gan gynnwys Twm o’r Nant, Thomas Gee, William Salesbury dim ond i enwi rhai.

Eleni mae’r lein-yp o feirdd a cherddorion yr un mor gynhwysfawr. Cynhelir y noson yn y Clwb Rygbi, sydd llai na milltir o ganol tref Dinbych, felly bydd lle i bawb weld a chlywed gwaith gwreiddiol y cyfranwyr!

Lluniwyd y poster trawiadol gan Rhys Aneurin. Mawr yw’r diolch iddo. Edrychwch ymlaen i weld y posteri ar hyd a lled Maes yr Eisteddfod ac yn nhref Dinbych.

Dyma fanylion y noson:

Siwper Cêt ac ambell Fêt
Sesiwn i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych

Cerddi a chaneuon gan…

Catrin Dafydd, Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth, Twm Morys, Aneirin Karadog, Dewi Prysor, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Gwyneth Glyn, Geraint Lovgreen, Eurig Salisbury, Mei Mac, Ifan Prys, Nici Beech, Iwan Rhys, Arwyn Groe a llawer mwy…

Nos Fawrth, 6ed o Awst 2013

7.30pm

Clwb Rygbi Dinbych

Yn perthyn i: Newyddion Tagiwyd gyda: Bragdy'r Beirdd, Dinbych

Tanysgrifio

Byddwch y cyntaf i glywed y cerddi!

Osian Rhys Jones

Dyma gofnod gan Osian Rhys Jones.

Mae Osian yn cyhoeddi cerddi a myfrydodau yma ac yn rantio o bryd i'w gilydd

Mwy amdanaf fi…

Reader Interactions

Leave a Reply Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Footer

  • Facebook
  • RSS
  • Twitter
  • YouTube

Chwilio’r wefan

  • Y Glêr
  • Her 100 Cerdd 2012
  • Bragdy’r Beirdd
  • Archif
  • Amdanaf Fi
  • Cysylltu
  • Comisiynu Cerdd
  • Tanysgrifio

Hawlfraint © 2019: Osian Rhys Jones