Her 100 cerdd

Bu Tim Talwrn Y Glêr yn cymryd rhan yn yr Her 100 cerdd cyntaf ar 4 Hydref 2012.

Dyma her nas gwelwyd ei fath mewn barddoniaeth Gymraeg cyn hyn (oni bai eich bod chi yn gwybod yn wahanol – os felly gadewch sylw). Erbyn

Gosodwyd yr her gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, ac fe welwch chi’r datganiad llawn ar eu gwefan nhw. Fel tîm buddugol y Talwrn 2012 roedd hon yn gyfle i ni fynd am her arall, y tu hwnt i’n gorchwylion barddol arferol.

Cyfansoddi am 24 awr

Roeddem yn gweithio o hanner nos i hanner nos, fel petai, (neu 00:00-23:59 os mai felly rydych yn gosod eich clociau). Rhwng y pedwar ohonom byddwn yn cyfansoddi ac yn cyhoeddi 100 cerdd yn ystod yr oriau hynny.

I roi help llaw i ni, gan y byddai’r awen yn siŵr o fod yn hesb rhyw dro yn ystod yr her, roeddem yn gofyn i’r cyhoedd gynnig syniadau, testunau neu linellau i’n hysbrydoli, i ni ymateb iddynt.

Roedd hefyd cyfle i ofyn am gomisiwn byr ar ran rhywun arall. Mae hynny’n costio fel arfer!

Cyhoeddi cerddi Her 100 cerdd

Byddai rhai’n dweud fod niwed parhaol wedi’i wneud i’n traddodiad barddol mewn dim ond 24 awr. gadewch i feirniaid llenyddol y dyfodol farnu..

Cyhoeddwydy cerddi ar wefan arbennig a sefydlwyd ar gyfer yr her, sef her100ogerddi.wordpress.com.

Profiad Her 100 cerdd

Fedra i ond ei ddisgrifio fel marathon barddonol, yn mynd trwy sawl emosiwn yn ystod y 24 awr, hyder, blinder, gobaith, edifeirwch, … ond roedd rhyddhad a balchder mawr ar y diwedd ein bod wedi dod trwyddi.

Diolch anferthol i bawb a gynigiodd destun neu syniad i’r beirdd, ac ymddiheuriadau i bawb na chafodd ateb i’w cais – roedd llawer iawn i fynd trwyddynt!

Diolch hefyd i Llenyddiaeth Cymru am eu cefnogaeth trwy gydol yr her.