Nodiadau 24 Ionawr 2025

Be wnes i’r wythnos yma

Cwblhau 2 werthusiad chwarterol ac adolygiad 12 mis – maen nhw i gyd wedi’u cwblhau erbyn hyn! Diolch byth. Mae’r rhain yn dod yn go sydyn!

Wedi cwblhau fy ngwerthusiad fy hun.

Ddydd Mawrth cawson ni glinig cynnwys yn y gymuned Cynnwys. Roedd hyn yn wych, ac roeddwn yn falch bod Claire wedi rhannu ei gwaith a chael adborth a chyngor mor dda. Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o gynnwys ymarferol go iawn yn dod i’r gymuned. Crynhoais y sesiwn mewn e-bost i’r gymuned. Ond roedd hefyd yn teimlo fel cofnod blog da, felly rhannais hwnnw gyda Comms.

Siaradais â Stuart Ball yn Sight Life i gynllunio ychydig mwy ar y sesiwn gymunedol fis nesaf. Dwi’n edrych ymlaen am hyn ond hefyd yn teimlo pwysau nawr bod cymunedau eraill yn ymuno. Dwi’n gobeithio y byddwn ni i gyd yn cael rhywbeth allan ohono! Mae hwn wedi bod yn waith dygn i feithrin y berthynas â Sight Life ond mae wedi rhoi boddhad hyd yn hyn. Fe wnes i hefyd gynllunio rhywfaint o’r hyn sydd angen digwydd nesaf a throsglwyddo rhai o’r tasgau ymarferol nawr i ddwylo medrus Mike a Josh.

Adolygais yn fyr y disgrifiad swydd ar gyfer y rolau iau newydd yn y tim UCD.

Cynlluniais y gweithgarwch ar gyfer sesiwn ein dylunwyr yr wythnos nesaf. Fe benderfynon ni gadw at amserlen o 6 wythnos (ish) i ni adeiladu ar ein gwaith ops dylunio. Fe wnwes i gyfarfod â Vic hefyd i drafod hyn a mwynheais gael ein sgwrs – mae wedi bod yn rhy hir ers i ni ddal i fyny.

Ddydd Llun siaradais â James Gibbons a’r garfan Lime am eu gwaith ar y alluoedd dylunydd cynnwys. Braf oedd gweld eu gwaith a chyfrannu. Mae’n edrych yn addawol iawn ac fe wnes i fwynhau mynd yn ôl at y pethau sylfaenol – meddwl am esbonio’r cysyniad o sgiliau dylunio cynnwys i ddechreuwr.

Treulio amser gyda’r garfan Melyn ddydd Mawrth i dorri eu camau nesaf. Mae hyn yn edrych yn wych ac mae’r tîm yn ymddangos yn hyderus ac ar y trywydd iawn.

Wedi fdal fyny gyda Poppy – roedd yn hyfryd dal i fyny am waith a bywyd a chael sgwrs. Hefyd i fyfyrio ar gynlluniau Dydd Gŵyl Dewi yn CDPS

Rwyf wedi cael llawer o negeseuon ebost i’w hateb yr wythnos hon. Gan gynnwys rhoi cyngor i rai aelodau allanol o’r gymuned a cheisiadau gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a ddiweddarodd eu canllawiau ysgrifennu pâr i gynnwys ysgrifennu triawd .

Treuliais 2 fore hefyd yn gweithio o bell rhwng bod yn dacsi i fy mab i ymweld â’r feithrinfa newydd y mae’n dechrau arni ym mis Chwefror. Hefyd, ddydd Mawrth, fe benderfynodd beidio deffro tan 10yb oedd yn golygu bore arall o’i dacsi-io i’w feithrinfa yn hwyr!

Be’ sydd ar fy meddwl

Holodd fy ngwerthusiad chwarterol be’ dwi yn fwyaf balch ohono yn y chwarter diwethaf. Roeddwn angen peth amser i fyfyrio, gan fod y chwarter olaf yn canolbwyntio’n fawr ar bobl, gan gefnogi’r tîm drwy gyfnod prysur. Doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i allbwn y gallwn i bwyntio ato ar un ystyr. Ond sylweddolais fy mod yn falch bod y dylunwyr cynnwys a’r cyfieithwyr yn ymddangos yn hapusach, yn fwy hyderus a gwydn. Nid yw hynny i gyd i lawr i mi, ond rwy’n falch ohonyn nhw a fy rhan i ynddo.

Cynnal cynnwys

Wrth anfon e-bost at gydweithiwr yn Llywodraeth Cymru am y canllawiau ysgrifennu triawd, roedden ni’n ystyried faint o waith sydd i gadw pethau’n gyfredol, a dywedon nhw:

Mae cynnal arweiniad yn cymryd peth amser

Mae hyn yn swnio fel disgyneb ond mae’n bwysig iawn. Mae mor hawdd syrthio i’r fagl o beidio â chynnal cynnwys neu beidio â dileu cynnwys sy’n cael ei ddyblygu neu nad yw bellach yn helpu defnyddwyr.

Mae’n demtasiwn i barhau i gyhoeddi cynnwys newydd ond dychmygwch hyn fel peintio ystafell newydd: rydych chi’n gorffen paentio ond dydych chi ddim yn golchi’r rholeri, yn plygu’r llenni llwch nac yn rhoi’r brwsys a’r potiau paent yn ôl yn y sied. Rydych chi’n eu gadael i gyd allan ar y llawr. Yna rydych chi’n dweud wrth eich ymwelwyr i edmygu’ch waliau sydd newydd eu paentio tra’n eu rhybuddio i edrych i ble maen nhw’n mynd fel nad ydyn nhw’n sefyll yn y pot paent hwnnw a adawyd gennych chi. Anrhefn!

Beth bynnag, rwy’n gwybod bod gennym ganllawiau y mae gwir angen inni eu hadolygu ar wefan CDPS er mwyn sicrhau bod pethau’n gyfredol, yn gydgysylltiedig ac yn gyson. Ar hyn o bryd, dydi hyn ddim yn wir. Mae’n amlygu sut mae angen inni ystyried y pethau hyn cyn cynllunio, ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys. Am gymhariaeth arall – peidiwch â gosod pwll nofio yn eich gardd oni bai eich bod yn gwybod y bydd gennych amser i’w lanhau (neu dalu rhywun i’w wneud ar eich rhan)

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *