Cnoi Draenogod

Roedd Cnoi Draenogod yn sioe farddol a cherddorol yn edrych ar gyfraniad diwylliant y Romani yng Nghymru.

Poster Cnoi Draenogod, gan Rhys Aneurin.
Poster Cnoi Draenogod, gan Rhys Aneurin.

Y pedwar bardd oedd yn rhan o’r sioe oedd Anni Llŷn, Llŷr Gwyn Lewis, Rhys Iorwerth a minnau.

Fe’i perfformiwyd hi gyntaf yng Nghastell Newydd Emlyn ar 26 Mehefin fel rhan o’r gweithgareddau a oedd yn cydfynd â dathlu tymor y Sipsiwn ar S4C. Darlledwyd y sioe honno

’Da ni i gyd yn crwydro ar hyd ein llwybrau’n hunain – ond heblaw am wythnos y steddfod, does ‘na ddim llawer ohonom ni’n gwneud hynny mewn carafan. Yn y sioe hon bydd Rhys Iorwerth, Osian Rhys Jones, Anni Llŷn a a Llŷr Gwyn Lewis yn taro golwg farddol a cherddorol ar y Sipsiwn Romani. Er mai ‘gajos’ ydym i gyd, mae’n siŵr fod yna rywfaint o waed Romani ynom hefyd, ac efallai y synnwch chi o weld nad ydan ni mor wahanol â hynny yn y pen draw.

Datganiad i’r wasg

Yr enw – Cnoi Draenogod

Tarddiad enw’r sioe oedd bod draenogod, yn ôl pob tebyg, yn rhan o ddeiet y Sipsiwn Romani.

Diolch anferthol i Rhys Aneurin am ddylunio’r poster.

Cefnogwyd y daith hon gan Llenyddiaeth Cymru. Diolch iddynt am eu holl o gefnogaeth ac anogaeth i gynhyrchu’r sioe.

Gigs


Cnoi Draenogod Galeri Caernarfon

Dyddiad: 20/04/2013

Lleoliad   Galeri, Doc Fictoria Caernarfon LL55 1SQ

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Clwb y Diwc

Dyddiad: 15/02/2013

Lleoliad   Clwb y Diwc, 48 Clive Road, Treganna, Caerdydd, CF5 1HJ

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Saith Seren

Dyddiad: 08/02/2013

Lleoliad   Saith Seren, 7 Stryt Gerallt, Wrecsam, LL11 1EH.

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Theatr Gartholwg

Dyddiad: 01/02/2013

Lleoliad   Theatr Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Tafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn

Dyddiad: 25/01/2013

Lleoliad   Tafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd LL23 7UB

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Llanystumdwy

Dyddiad: 23/11/2012

Lleoliad   Neuadd Bentref Llanystumdwy, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW.

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Llanast Llanrwst

Dyddiad: 20/11/2012

Lleoliad   Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.


Cnoi Draenogod Maes C

Dyddiad: 08/08/2012

Lleoliad   Theatr, Maes yr Eisteddfod, Llandŵ, Bro Morgannwg

Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.