Cerdd mewn Mydr ac Odl: Dogfen

Mydr ac Odl: Reslo Geiriau mewn Ffêri Licwid

Cerdd mewn mydr ac odl a gyflwynais ar raglen Talwrn y Beirdd yn ddiweddar. Dyma beth oedd yn ddiddorol i mi am ei chreu.

Ymddiheuriad

Rhag ofn i chi ddechrau meddwl bod y blog hwn wedi bod yn dawel yn ddiweddar (ydi, mae o), dyma geisio lleddfu fymryn ar eich pangfeydd pryderus trwy gyhoeddi cerdd.

Bydd y rhai ohonoch sydd yn anoraciaid barddol ac yn gwrando ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Cymru eisoes wedi clywed gornest ddiweddaraf Y Glêr yn erbyn Ffostrasol. Do, bu’r Glêr yn ddigon ffodus i grafu heibio un o’u hen elynion am eleni.

Beth am y Mydr ac Odl?

Dwi’n falch fod y Meuryn wedi cael blas ar y gerdd isod ar y rhaglen. I mi roedd yn ddiddorol ei chreu am nad ydw i erioed wedi hoffi canu ar fydr ac odl fel y cyfryw. Bûm yn sgwennu sonedau, do. Ond ni apeliodd erioed sioncrwydd llawer o fesurau mydr ac odl (gan gydnabod nad yw pob amrywiaeth mydr ac odl yn cael yr un effaith).

Efallai fy mod yn fardd rhy bruddglwyfus, Dyna pam y gwelwn fesurau gyda’u rhythmau la-di-da-di-da-di-da yn rhy sionc i gyfleu y neges FAWR HOLLBWYSIG sydd gen i. Efallai mai bardd rhy hunanbwysig ydw i…

Cyngor i eraill wrth greu mydr ac odl

Wrth fynd ati i gyfansoddi’r gerdd hon i’r Talwrn dewisais fesur gweddol siwgwrllyd, a hynny o fwriad. Er fy mod yn gwybod nad cerdd sionc, doniol na melys a fyddai hon.

Pam hynny? Wel roeddwn yn benderfynol o ddarganfod ffordd fod modd dod â bwystfil y mesur o dan reolaeth. Roedd ceisio dofi sioncrwydd y mesur yn dipyn o her, ac yn aml roedd fel reslo geiriau mewn ffêri licwid. Ond hoffwn i feddwl bod modd llwyddo yn hynny o beth. Ac o lwyddo fod cerdd fwy llwyddiannus yn dod ohoni, a bod y mesur yn canu grwndi neges y gerdd ar ôl ei ffrwyno fymryn.

Amynedd piau hi felly, a digon o ddyfalbarhad.

Dyma’r gerdd i chi ei darllen yn ei chyfanrwydd isod. O ran ei hystyr, fe wna i adael hynny i chi!

Dogfen

Fe welais wawr yn diffodd,
Yn ffoi er mwyn cael byw.
A saib rhwng bomiau, rhywfodd,
Fel pont rhwng dyn a duw.
Mae golud heibio’r gorwel hir
Os ydyw’r straeon hwythau’n wir.

Cyrhaeddais ffin aflonydd
Tan rwysg ei muriau hi,
A phasbort brau, o’r newydd,
Yn dyst i’m buchedd i.
Â’r lôn ar gau i’r freuddwyd ffôl,
‘Does ‘fiw i’r galon edrych nôl.

Mae gen i sach a thynged,
A theulu’r ochor draw;
Dwi wedi blino cerdded
Heb wybod beth a ddaw;
Ond mae mewn terfyn ganiatâd,
Mae diwedd byd yn llawn parhad.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *