Poster noson WYLFA Beirdd

Golwg ar linach noson WYLFA Beirdd

Cyn noson WYLFA Beirdd ar nos Fawrth 8 Awst yn Eisteddfod Môn, dyma olwg ar rai o fy hoff nosweithiau barddol yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd i diwethaf.

Mae noson wedi cael ei gynnal ym mhob Eisteddfod ers 2012, a noson WYLFA Beirdd 2017 fydd y diweddaraf yn eu plith. O’r dechrau y nod oedd cynnig noson amgen y tu hwnt i faes yr Eisteddfod. Gan fod y noson wedi tyfu yn aruthrol ers y noson gyntaf oll, ‘Iolo!’ yn 2012, rydym wedi cydweithio efo Cymdeithas yr Iaith ers 2015 i gynnal y noson yn lleoliad gigs eisteddfodol yr Eisteddfod.

Pe bai rhaid i mi ddewis tair noson o’u plith, byddwn yn dewis

  • ‘Iolo!’ – Y cyntaf oll o’r nosweithiau barddol yn yr eisteddfod
  • ‘Siwper Cêt ac Ambell Fêt’ – noson gyda pherfformiadau bythgofiadwy
  • ‘Anntastig’ – noson hynod o boblogaidd yng Nglwb Rygbi COBRA, Meifod

‘Iolo!’

‘Iolo!’ oedd y noson farddol gyntaf i ni ei chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae gen i go’ da o daith yn y car i Fro Morgannwg ym mis Gorffennaf 2012, a hynny i chwilio am leoliad addas. (Dyma pa mor hwyr y byddwn yn trefnu pethau!) Catrin Dafydd oedd yn gyrru a minnau a Rhys Iorwerth yn bod yn blant annifyr yn y cefn. Cofiaf i ni stopio’n y Bontfaen, a synhwyro nad oedd unlle yno a fyddai’n ein plesio.

Gyrru wedyn mewn cylchoedd yn chwilio am dafarndai gwledig yn agos i Landŵ. Aethom i Singingstone a gweld yno’r Victoria Inn. Lle addawol, a chawsom gyri da yno. Fodd bynnag roedd yn teimlo’n angysbell braidd (a’n gafael ninnau ar ddaearyddiaeth Bro Morgannwg yn ddigon simsan). Ymlaen i Lanilltud Fawr â ni felly.

Ar ôl ceisio un dafarn oedd yn frith ag Union Jacks, tafarn arall oedd yn rhy fach, roedd hi’n mynd yn hwyr a ninnau’n colli gobaith. Ond doeddem heb fynd draw i’r Old White Hart ar y sgwâr. Dyma gerdded draw.

Wedi holi’r staff yn y bar am y posibilrwydd o gynnal noson yno, galwasant am y perchennog. A dyna ddyn oedd hwnnw. Dangosodd pob twll a chornel o’r dafarn i ni. Roedd yn edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod (er nad oedd yn gwbl siŵr beth i’w ddisgwyl). Roedd hefyd yn falch iawn bod ei wyres yn rhugl yn Gymraeg yn un o’r ysgolion lleol. Er fod dwy ystafell braidd yn fach yn yr Hen Hydd Gwyn – doedd affliw o ots yn y byd. Y dafarn hon, gyda’i pherchennog brwdfrydig, oedd y lle i ni gynnal noson ‘Iolo!’

Bendigedig o ddi-drefn oedd y noson. Ond roedd gafael Ifor ap Glyn ar gyflwyno beirdd a llywio noson cystal ag y bu ers hynny. Roedd y dafarn dan ei sang gan brofi fod galw am nosweithiau diwylliannol yn Gymraeg yn nhafarnau lleol ardal yr Eisteddfod. Daeth Iolo Morganwg draw hefyd a mela’n ddireidus hefo’r system sain o bryd i’w gilydd.

Noson fendigedig!

‘Siwper Cêt ac Ambell Fêt’

Y flwyddyn ganlynol roeddem yng Nghlwb Rygbi Dinbych.

Buom yn pendroni’n hir beth fyddai thema’r noson, neu pa ffigwr enwog a fyddai’n ganolbwynt i’r syniad. Plediodd Catrin achos gref dros Kate Roberts. A’i syniad hi oedd Kate Roberts fel rhyw Wonder Woman Cymreig gyda’i holl seid-cics llai enwog. Roedd hi wedi taro’r hoelen ar ei phen.

Roeddem wedi cael gwahoddiad i’r clwb rygbi yn dilyn noson Iolo! Roedd digonedd o le yno, a ninnau’n poeni na ddeuai digon yno i gynnal yr awyrgylch.

Fodd bynnag, roeddem wedi cael ychydig gwell trefn arni y flwyddyn hon, a digon o amser i gomisiynu poster ardderchog gan Rhys Aneurin. Roedd y gair wedi lledu er 2012 fod hon yn noson dda. Roedd rhaid cynnal y safon felly o flaen cynulleidfa fawr arall. A diolch i’r holl feirdd fe lwyddwyd i wneud hynny.

Mae llawer iawn o gerddi’r noson honno ar gael ar YouTube. Ond i mi, fel i bawb dwi’n siŵr, roedd un perfformiad bythgofiadwy gan Cêt a Saunders. Mae’n rhaid ei wylio i’w goelio!

Ed Holden sy’n bît-focsio yn y cefn gyda llaw. A Gwyneth Glyn ac Aneirin Karadog oedd Cêt a Saunders.

‘Anntastig’

Dwy flynedd yn ddiweddarach roeddem mewn clwb rygbi arall, sef Clwb Rygbi COBRA ym Meifod.

Dyna hefyd lle cynhaliwyd gigs y Gymdeithas am yr wythnos. Cawsom wahoddiad i gynnal ein noson farddol yno ar y nos Fawrth.

Noson ‘Anntastig’ oedd hon. Roedd rhywun yn teimlo fod llawr uchaf y clwb rygbi yn gwegian dan faint y gynulleidfa!

Ymweliad arall gan bersonoliaeth(au) o’r gorffennol oedd uchafbwynt y noson hon. Sef personoliaethau Ann Griffiths. Mae fideo i chi ei mwynhau ohoni.

Gwyneth Glyn a Guto Dafydd oedd y ddwy Ann. Dylwn roi sylw haeddiannol hefyd i gerdd Gruffudd Owen ‘Mwynder o Ddiawl’!

Manylion noson WYLFA Beirdd

Y nesaf yn y gyfres hon yw noson WYLFA Beirdd yn Eisteddfod Môn 2017. Bydd y noson yn cael ei chynnal ar Fferm Penrhos, sef lleoliad gigs Cymdeithas yr Iaith. Mae’r manylion i gyd i’w cael ar wefan Bragdy’r Beirdd. Mae yno hefyd ddolen i brynu tocynnau ar-lein.

Digon yw dweud y bydd y digwyddiad eleni hefyd yn dibynnu ar garedigrwydd, egni a chreadigrwydd beirdd. Hebddyn nhw, fyddai dim nosweithiau barddol llwyddiannus fel hyn. Ac hefyd trwy gydweithrediad Cymdeithas yr Iaith. Diolch amdanynt i gyd!

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *