Erthyglau

Be sy’n gwneud darn da o gynnwys digidol?

Yr wythnos hon dwi’n holi cwestiwn penagored iawn wrth ystyried pa elfennau sy’n gwneud darn da o gynnwys digidol. Cwestiwn rhyfygus efallai, achos gall darn o gynnwys digidol gymryd sawl ffurf o dan haul. Gall fod yn gopi ar gyfer gwefan neu ebost trydariad fideo llun neu meme cerdd cân podlediad *ychwanegwch unrhyw gyfrwng arall […]

Sut mae gwneud eich cynnwys fideo yn addas i’r we

Os ydych chi yn gwneud gwaith marchnata mae’n debygol y byddwch chi wedi creu neu gomisiynu fideo, ond a oedd y fideo yn addas i’r we? Dyma geisio crynhoi beth sy’n gwneud fideo sy’n addas i’r we, a pham fod hynny’n bwysig. Mae crefft arbennig i greu fideos effeithiol ar y we. Ac mae sawl rheswm

Cyhoeddi amlieithog ar Facebook – does dim rhaid bod ofn!

Os ydych chi am ehangu cynulleidfa eich tudalen Facebook gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio’r teclyn cyhoeddi amlieithog ar Facebook. Bydd hwn yn caniatáu i chi greu negeseuon ar eich tudalen sydd ddim ond yn ymddangos yn newis iaith defnyddwyr Facebook. Â hithau’n Galan Gaeaf, efallai fod yr holl beth yn ymddangos yn hunllefus, ond wir,

Gwirio’ch Gwefan: Sut i ysgrifennu copi addas

Er mwyn hoelio sylw eich defnyddwyr ar eich gwefan, mae angen ysgrifennu copi addas ar gyfer y cyfrwng. Bydd yr erthygl fer yma yn rhoi trosolwg syml ar yr hyn y gallwch chi wneud er mwyn arfer ysgrifennu copi addas nad yw’n blino neu’n syrffedu eich darllenwyr. Pam ysgrifennu copi addas? Onid yw’n bosib defnyddio’r copi

Buddion blogio i fusnes

Ydych chi erioed wedi ystyried beth yw buddion blogio i fusnes? Gall cynnal blog agor drysau i chi greu cynnwys amserol a pherthnasol, sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Ychydig flynyddoedd yn ôl, credai llawer fod blogio ar fin dod i ben, a’r ffasiwn wedi newid yn sgil dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol. Ond nid felly. Mae blogio yn

5 cam hawdd i chi ymddangos mewn canlyniadau chwilio

Mae maes optimeiddio chwilio (SEO yn Saesneg) wastad wedi bod yn faes tywyll. Da o beth felly fyddai cynnig 5 cam i’ch helpu chi i ymddangos mewn canlyniadau chwilio. Enw drwg Mae nifer fawr o arbenigwyr yn y maes sy’n gallu creu gwyrthiau, gan ddefnyddio cynnwys gwell, elfennau technegol a chodio er mwyn helpu pobl i ymddangos mewn